Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn damwain ddifrifol ar yr A48 rhwng Caerfyrddin a Nantycaws tua 6.10 yr hwyr neithiwr (nos Iau, Ionawr 28).

Roedd pedwar cerbyd yn y ddamwain – dau i ddechrau, cyn i ddau gar arall wrthdaro yn y sgil y gwrthdrawiad gwreiddiol.

Mae dynes a phlentyn ifanc wedi dioddef anafiadau difrifol o ganlyniad i’r ddamwain, ond maen nhw mewn cyflwr sefydlog.

Ac mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd gerbyd Nissan Note llwyd yn yr ardal, neu sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r ddamwain, i gysylltu â’r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol gan ddyfynnu DP-20210128-223.

Mae hefyd modd cysylltu â’r heddlu drwy’r ddolen bit.ly/DPPContactOnline, drwy e-bostio 101@dyfed-powys.pnn.police.uk, neu drwy ffonio 101.