Mae’r Cymro Cymraeg sy’n bennaeth ar un o orsafoedd radio mwya’ gwledydd Prydain wedi cael ei ffilmio ar ei daith yn ceisio cael babi gyda ’mam fenthyg’.

Ac mae Aled Haydn Jones, boss Radio 1 y BBC, yn dweud y bydd y rhaglen ddogfen sy’n dilyn ei siwrne surrogacy yn agoriad llygad i wylwyr yng Nghymru.

Mae’r Cymro a’i bartner Emile Doxey wedi bod yn ceisio cael babi gyda ‘mam fenthyg’ o’r enw Dawn Allen, ac fe fydd canlyniadau’r ymdrech i’w gweld ar S4C.

“Rwy’n gwybod fod hwn yn mynd i fod yn bwnc newydd i lot o bobol yng Nghymru,” meddai Aled Haydn Jones.

“Maen nhw yn mynd i weld hwn ac mae rhai pobol yn mynd i feddwl: ‘Dau ddyn yn cael babi – mae hwnna ddim yn iawn’.

“Neu maen nhw yn mynd i edrych ar Dawn a meddwl bod e’n od bod menyw yn cael babi a handio fe drosodd…

“Mae yna lot o bobol yn mynd i fod yn meddwl pethau fel yna, ond gobeithio eu bod nhw am weld y rhaglen a sylweddoli ar y ffaith bod [Dawn a ni] yn ffrindiau.

“A gobeithio, erbyn diwedd y rhaglen, y byddan nhw yn teimlo ein bod ni wedi gwneud y cam iawn.”

Yn wreiddiol o Aberystwyth, daeth Aled Haydn Jones i’r amlwg ar orsaf Radio 1 y BBC yn y 2000au am drafod hynt a helynt criw’r gyfres deledu Big Brother. Fe gafodd ei fedyddio yn ‘BB Aled’ a dod yn llais cyfarwydd i filiynau o wrandawyr.

Yn dilyn cyfnodau yn cyflwyno, cynhyrchu a golygu ar yr orsaf, fe gafodd ei benodi yn bennaeth Radio 1 y llynedd.

Mae’r Cymro 44 oed yn byw yn Llundain, ac wedi bod gyda’i bartner Emile Doxey ers 16 mlynedd

Nid oedd Aled Haydn Jones am ddatgelu a fu’r broses o geisio cael babi gyda mam fenthyg yn llwyddiannus, cyn dangos y rhaglen ar S4C.

Ond pam fod y Cymro a’i bartner wedi dewis y broses o fynd at fam fenthyg, yn hytrach na mabwysiadu plentyn?

“Roedd yna nifer o ffyrdd roedden ni yn gallu mynd gyda hwn,” meddai Aled.

“Ac roedden ni yn agored i bopeth. Ac roedd ffrindiau gyda ni sydd wedi trio ffyrdd gwahanol.

“Ac fe wnaethon ni ffonio ffrind sydd wedi cael babi trwy surrogacy, a wnaethon ni jesd siarad efo nhw am sut aeth e’.

“Ac ar ôl clywed amdano taith nhw, o gymharu gyda ffrindiau eraill oedd wedi mynd trwy ffyrdd eraill, roeddwn i ar y pryd jesd yn meddwl: ‘Man a man i ni jesd edrych mewn iddo fe. Ac os yw e’n teimlo’n dda – grêt. Ond does dim rhaid mynd lawr y llwybr yma’.

“Ac rydyn ni jesd heb stopio. Wnaeth un peth fynd i’r llall, ac wedyn rhywbeth arall, a wnaethon ni ffeindio mas am Surrogacy UK.”

Dyma un o’r cymdeithasau mwya’ ym Mhrydain sy’n paru cyplau gyda mamau benthyg.

“Wnaethon ni roi ein henwau lawr a ciwio lan i ymuno â Surrogacy UK,” eglura Aled, “a wnaethon ni aros deg mis cyn cael yr alwad bod ni mewn…

“A chyn bo chi’n gwybod, roedden ni reit ynghanol popeth, gyda [rhaglen ddogfen] yn cael ei ffilmio i S4C.

“Felly dim bo ni wedi penderfynu [ceisio cael plentyn gyda mam fenthyg] dros unrhyw beth arall, jesd dyma beth ryden ni wedi dechrau efo…”

Ceisio cywiro camargraff

Mae Aled Haydn Jones am i bobol ddeall bod ef a’i bartner wedi dod yn ffrindiau da gyda Dawn Allen, eu mam fenthyg, cyn cychwyn ceisio am fabi.

Fe wnaeth Aled ac Emile gyfarfod Dawn mewn cwrdd cymdeithasol – social – wedi ei drefnu gan Surrogacy UK yn nhref Matlock yn Derbyshire.

“Rydech chi’n clywed lot o bethau sy’n teimlo’n od, ond wnes i ddod i sylweddoli bod Surrogacy UK… amdano pwy sy’n ffrindiau,” meddai Aled.

“Rydych chi’n mynd i’r socials yma sy’n cael eu cynnal ar hyd a lled Prydain.

“Ac rydach chi’n mynd mewn i’r rhai cyntaf yn meddwl: ‘Ry’n ni eisiau babi, sut ni’n gwneud hyn?’

“Ond wedyn, dyw e’ ddim yn cymryd lot o amser cyn bo chi’n sylweddoli: ‘Oce, dyw e’ ddim yn gweithio fel yna’…

“Wnaethon ni sylweddoli fod e’ am ddod yn ffrindiau gyda phobol, a gweld pa fath o berthnasau fydde’n dod mas o cwrdd gyda phobol.”

Denu gwylwyr newydd at S4C

Mae Aled Haydn Jones yn dweud fod y broses o geisio cael plentyn gyda mam fenthyg, a ffilmio’r daith, wedi bod yn “lot fwy emosiynol” na’r disgwyl.

“Roeddwn i’n meddwl yn sicr bod pethe yn mynd i weithio yn weddol gyflym, ac roeddwn i moyn dangos y gwaith ffantastig sy’n digwydd yn Surrogacy UK, a jesd eisiau i bobol yng Nghymru sylweddoli fod pethau fel hyn yn digwydd,” meddai Aled.

“Ond roedd y daith lot mwy anodd a hir na beth oeddwn i’n disgwyl… ac roedd yna lot o ddagrau ar hyd y daith, efo’r camera crew yn gwyneb chi. A chi methu pigo beth oedden nhw yn ffilmio, achos bod chi wedi cytuno bo nhw’n cael ffilmio popeth.

“Felly, ie, mae’r rhaglen lot fwy emosiynol a real na’r hyn oeddwn i’n ddisgwyl.”

Ac mae Aled Haydn Jones yn dweud bod sawl un o du hwnt i Gymru yn edrych ymlaen at wylio’r rhaglen ar S4C.

“Mae pawb o Surrogacy UK, dros Brydain i gyd, yn mynd i wylio hwn. Maen nhw yn aros amdano fe.

“Ac rydw i’n mynd i roi e’ ar socials fi, ac wedyn wrth gwrs mae’r cyflwynwyr a’r timau sydd gyda fi yn Radio Un i gyd moyn ffeindio mas beth mae’r Boss yn wneud yn ei amser sbâr… felly fydd hynny’n ddiddorol!”

Ti, Fi a’r fam fenthyg ar S4C nos Sul, Chwefror 7, am naw