Mae’r awdurdodau wedi enwi dau o griw’r cwch pysgota sydd ar goll o Gonwy, wrth i’r chwilio ailgychwyn y bore yma.
Fe ddechreuodd y chwilio ychydig cyn 10 bore ddoe (dydd Iau, Ionawr 28) wedi i’r ‘Nicola Faith’ fethu dychwelyd i harbwr Conwy.
Roedd disgwyl i’r cwch ddychwelyd i’r harbwr am hanner nos, nos Fercher (Ionawr 27), gyda Gwylwyr y Glannau yn derbyn adroddiadau ei fod ar goll am 10 fore Iau (Ionawr 28).
Mae Alan Minard, gŵr 20 oed o Benmaenmawr, yn sir Conwy, a Carl McGrath yn ddau o dri aelod y cwch sydd ar goll.
Dywedodd teulu Alan Minard ei fod wedi bod yn gweithio yn Nyfnaint fel prentis peiriannydd llong, cyn dychwelyd adref oherwydd y pla.
Dim ond ers ychydig wythnosau yr oedd Alan Minard wedi bod yn gweithio ar y cwch yn harbwr Conwy, ar ôl symud adref yn sgil pandemig y coronafeirws.
Mae teulu Alan Minard yn credu bod y criw yn gollwng potiau cimychiaid pan aethon nhw i bysgota ddydd Mercher (Ionawr 27).
Y chwilio
Roedd Gwylwyr y Glannau o’r Rhyl, Bangor a Llandudno wedi’u hanfon i ymuno yn y chwilio ddoe ynghyd gyda badau achub o’r Rhyl, Llandudno, Conwy a Biwmaris.
Cafodd y chwilio ei ohirio neithiwr, gan ailddechrau ben bore yma.
“Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i ddod o hyd i’r cwch sydd ar goll ac mae ein meddyliau gyda’r teulu, sy’n amlwg yn poeni am eu hanwyliaid ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau.
Dywedodd fod y gwaith chwilio’n cwmpasu ardal enfawr, gan ychwanegu: “Mae’n llythrennol yn gannoedd o filltiroedd sgwâr.
“Dyna pam mae cymaint o adnoddau wedi cael eu defnyddio i geisio chwilio’r ardal yn ddigonol.”