Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio gallai’r cwricwlwm newydd arwain at ‘loteri cod post’ ac anghydraddoldebau os nad yw hanes Cymru yn cael ei gynnwys fel elfen orfodol.
Yn ystod Pwyllgor Addysg y Senedd heddiw, Ionawr 28, bydd llefarydd addysg Plaid Cymru Siân Gwenllian yn cyflwyno gwelliant i’r bil.
Yn ôl Siân Gwenllian byddai peidio â chynnwys hanes Cymru, gan gynnwys hanes pobol ddu a phobol o liw, fel rhan orfodol o’r cwricwlwm newydd, gydag adnoddau a hyfforddiant i athrawon, yn arwain at loteri cod post.
“Mae gwybod a deall treftadaeth Cymru a’n lle yn y byd yn hawl y mae holl ddisgyblion Cymru yn ei haeddu ac mae’n hanfodol i sicrhau bod disgyblion Cymru yn ddinasyddion gwybodus o Gymru a’r byd,” meddai Siân Gwenllian.
“Ni allwn ganiatáu i’n plant a’n pobl ifanc fod yn destun loteri cod post o ran y cwricwlwm newydd – sy’n anochel os nad oes corff gorfodol, cyffredin o wybodaeth i ysgolion ei addysgu.”
Awgrymodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ym mis Tachwedd 2019 y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad gan Estyn o gynnwys a safon addysgu hanes mewn ysgolion.
Fodd bynnag, mae’r adolygiad wedi’i ohirio oherwydd yr effaith y pandemig ar addysg, ac ni ddisgwylir canlyniad tan yr hydref.
‘Allan o gysylltiad’
Mae Dr Dan Evans, ymchwilydd addysg, wedi dweud y byddai peidio â gwneud y pwnc yn orfodol yn arwain at wahaniaethau yn ddibynnol ar “gapasiti ysgolion ac athrawon sydd eisoes dan bwysau”.
“Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru allan o gysylltiad â realiti addysgu a’r amser a’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i athrawon o ganlyniad i doriadau ariannol dros y degawd diwethaf,” meddai.
“Dylem ddysgu gwersi o weithredu’r Cwricwlwm Cymreig, a oedd â photensial anhygoel o ddatblygu ymdeimlad dinesig o hunaniaeth Gymreig ymhlith disgyblion ond nad oedd yn cael ei weithredu’n gywir. Gan nad oedd athrawon yn cael digon o wybodaeth nac adnoddau ac ni chyflawnwyd y nod.
“Bydd hanes Cymru yn wynebu’r un ffawd os nad yw’n cael ei weithredu’n iawn a’i wneud yn rhan orfodol o’r cwricwlwm newydd.”