Heno (nos Iau 28 Ionawr) bydd Bro360 yn cyhoeddi pa straeon lleol sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf ar y gynulleidfa, trwy ddarlledu Gwobrau Bro360 ar YouTube.

Y nod yw dathlu’r holl gynnwys amrywiol a gwych sydd wedi’i greu gan bobol leol ar eu gwefan fro yn ystod 2020.

Er gwaethaf Covid-19, bu cynnydd sylweddol yn y defnydd o’r gwefannau bro sy’n dod dan adain Bro360 yn ystod 2020.

Cyhoeddwyd dros 1,230 o straeon lleol, ac erbyn hyn mae dros 430 o bobol wedi cyfrannu tuag at eu gwefannau bro.

Yn ystod y flwyddyn tyfodd y rhwydwaith o 4 i 7 gwefan fro, gan gynnwys tair ardal yng Ngheredigion a phedair yn Arfon.

Yn ddiweddar, roedd Clonc360 yn dathlu cyhoeddi eu milfed stori, tra bod BroAber360 newydd gyrraedd 100 o gyfranogwyr.

“Ym mlwyddyn Covid, mae mwy a mwy o bobol wedi ailddarganfod gwerth eu milltir sgwâr ac yn chwilio am wybodaeth, straeon a diddanwch am eu hardal leol,” medd Lowri Jones, Cydlynydd cynllun Bro360.

“Trwy gyfrwng y gwefannau bro, mae pobol leol wedi mynd ati’n greadigol i roi eu bro ar y map, ac rydym wedi penderfynu cynnal Gwobrau i ddathlu’r straeon lleol a’r holl bethau da sydd wedi digwydd yn ein bröydd yn 2020.”

Y Gwobrau

Bydd y rhaglen yn datgelu enillwyr y 10 categori, sy’n amrywio o fideo orau, i’r esiampl orau o wneud gwahaniaeth yn lleol. Uchafbwynt y gwobrau fydd datgelu eich hoff straeon chi, gyda gwobr Barn y bobol.

Mae’r straeon sydd wedi cyrraedd y rhestrau byr yn amrywiol iawn, gyda darn ar warchod enwau lleoedd, fideo yn dangos sut i goginio bisgedi, a chyfweliad â drymiwr The Struts – stori a gafodd 1,000 o hits mewn 24 awr – yn ymddangos.

Cyhoeddi rhestrau byr gwobrau Bro360

Cadi Dafydd

10 categori i ddathlu’r holl straeon lleol gan bobol leol yn 2020

 

Bydd staff Bro360 yn cael cwmni Elen Pencwm a Gethin Griffiths, wrth iddynt ddatgelu pa straeon o blith y cannoedd sy’n dod i’r brig.

Bydd y Gwobrau’n cael eu darlledu ar sianel YouTube Bro360 am 7:30pm ar 28 Ionawr, ac mae croeso mawr i bawb ymuno yn y dathlu.

Ac fel tamed i aros pryd, bydd enillydd categori Fideo y Flwyddyn yn cael ei ddatgelu ar raglen Heno ar S4C am 7pm.

Y 10 categori:

  • y stori orau am godi gwên
  • fideo y flwyddyn
  • oriel luniau y flwyddyn
  • cyfranogwr y flwyddyn
  • crëwr ifanc y flwyddyn
  • stori leol orau gan golwg360
  • esiampl orau o wneud gwahaniaeth
  • hyrwyddwyr gorau
  • cynnydd mewn cyfranogwyr
  • barn y bobol