Mae’r gwaith chwilio am gwch pysgota coll oddi ar arfordir Gogledd Cymru yn parhau.

Mae badau achub, hofrennydd, ac awyren yn chwilio am y cwch a adawodd harbwr Conwy ddydd Mercher, Ionawr 27.

“Rydym yn parhau i chwilio ardal eang i geisio dod o hyd i’r llong hon gan ddefnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i ni,” meddai Rob Priestley, Rheolwr Dyletswydd Gwylwyr y Glannau.

“Rydym hefyd yn gofyn i longau eraill yn yr ardal gadw golwg am unrhyw beth a allai hefyd helpu’r chwiliad.”

Y gred yw bod tri o bobol ar y cwch a roedd disgwyl i’r llong ddychwelyd i’r porthladd am hanner nos.

Cafodd criwiau eu galw am 10:30 fore Iau ac yn chwilio’r môr rhwng Llandudno a Llanddulas, Sir Conwy.

Mae Gwylwyr y Glannau’r Rhyl, Bangor a Llandudno wedi’u hanfon ynghyd â badau achub yr RNLI o’r Rhyl, Llandudno, Conwy a Biwmares.

Er bod hofrennydd o Gaernarfon, awyren o Doncaster a Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn rhan o’r chwilio dydy nhw dal heb ddod o hyd i’r llong.