Mewn rhaglen arbennig i ddathlu straeon lleol gan bobol leol ar y gwefannau bro, cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Bro360 heno (nos Iau 28 Ionawr).

Gwobrau Bro360: yn fyw

Lowri Jones

Ymunwch ag Elen Pencwm a Gethin Griffiths mewn rhaglen sy’n dathlu ac yn datgelu eich hoff straeon lleol o’r flwyddyn ddiwethaf

Roedd y Gwobrau yn rhoi sylw i erthyglau, fideos ac orielau sydd wedi’u creu ar y gwefannau bro yn ystod 2020, yn ogystal â dathlu esiamplau o wneud gwahaniaeth yn lleol.

Er gwaethaf Covid – neu efallai o’i herwydd – mae’r defnydd o’r 7 gwefan fro sy’n dod dan adain Bro360 wedi gweld cynnydd sylweddol dros y flwyddyn, wrth i bobol droi fwyfwy at eu milltir sgwâr.

Ac yn ogystal â mwynhau darllen a gwylio’r arlwy leol, mae pobol leol wedi bod yn creu – gan gyhoeddi 1299 o straeon ar draws y 7 gwefan yn 2020.

Dyma gyhoeddi enillwyr y 10 categori:

‘Stori codi gwên’ y flwyddyn

Yn ennill: Steffan Nutting, am ei gyfweliad â’i fam Mair ar ôl iddi ddenu sylw Peter Crouch am ei sgiliau pêl-droed!

Fideo y flwyddyn

Yn ennill: Nel Pennant Jones, am ei fideo’n edrych ar y rhesymau dros ddewis y coleg neu’r chweched dosbarth, gyda rhai o’i chyfoedion.

Coleg neu Chweched Dosbarth? 

Nel Pennant Jones

Poppy a Mared sy’n rhannu eu profiadau gwahanol o fynd i’r Coleg ac aros yn y Chweched Dosbarth

Oriel luniau y flwyddyn

Yn ennill: William Howells, am ei 4 stori yn edrych nôl ar ymweliadau’r Eisteddfod Genedlaethol ag Aberystwyth dros y ganrif diwethaf.

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth: Golwg yn ôl 1/4 #AtgofGen

William Howells

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth: Golwg yn ôl 1

Cyfranogwr y flwyddyn

Mae pob cyfranogwr yn enillydd, ond yn cipio’r wobr eleni mae Dylan Lewis am ei waith yn creu, ysgogi ac arwain y gad gyda Clonc360.

Crëwr ifanc y flwyddyn

Yn ennill: Begw Elain, am roi Clwb Pêl-droed Nantlle Vale ar y map gyda’i fideos uchafbwyntiau o’r gemau ac erthyglau hwyliog yn ystod y cyfnod clo.

Esiampl orau o wneud gwahaniaeth

Yn ennill: Eisteddfod Capel-y-groes, am gynnal Eisteddfod Ddigidol Gynta’r Byd ar ddechrau’r pandemig, gan roi’r ysbrydoliaeth i fudiad cenedlaethol yr Urdd gynndal Eisteddfod T yn ddiweddarach.

Eisteddfod leol ddigidol gynta’r byd!

Luned Mair

Mwy na 150 o blant dan 12 yn cystadlu trwy fideo ac ar-lein yn Eisteddfod Capel y Groes

Stori leol orau gan golwg360

Yn ennill: Lleu Bleddyn, am fynd â chwestiynau’r bobol at arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a’i holi am ddatblygiadau’r coronafeirws yn y sir ar adeg dyngedfennol.

Ellen ap Gwynn yn ateb eich cwestiynau am ysgolion, pecynnau bwyd a chau ffiniau Ceredigion

Gohebydd Golwg360

Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn ateb cwestiynau am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.

Hyrwyddwyr gorau

Yn ennill: Clonc360

Cynnydd mewn cyfranogwyr

Yn ennill: BroAber360

Barn y bobol – eich hoff straeon chi

BroAber360: Gwilym Jenkins am ei stori ‘Plwy tecach y plwyfi

BroWyddfa360: Nel Pennant Jones am roi hanes ailddechrau band wedi i Covid dawelu Deiniolen

Caernarfon360: Erin Bryfdir am rannu ei phrofiadau fel nyrs yn ystod yr argyfwng

Caron360: Enfys, Megan a Zara am fideo’n esbonio pam mai ‘Twll o le yw Tregaron i gynnal Eisteddfod‘!

Clonc360: Dylan Lewis, am y stori ‘Anrhydeddu pencampwraig y peli, gog gweithgar a chloncen brysur

DyffrynNantlle360: Begw Elain, gyda’i fideo’n darlunio sut roedd Covid yn effeithio ar chwaraewyr Nantlle Vale

Ogwen360: Beca Nia, un o fynychwyr Cwrs Gohebwyr Ifanc Bro360, am ei fideo’n dangos sut mae bywyd myfyrwyr wedi newid!

Gallwch wylio’r Gwobrau unhryw bryd, a mynd i’r gwefannau bro i ddarllen, gwylio a gwrando ar y straeon diweddaraf gan bobol ardaloedd Arfon a Cheredigion.