Mae’r Comisiynydd Plant Cymru wedi codi pryderon am y rhwystrau sy’n bodoli o ran dysgu ar-lein.

Mi gynhaliodd swyddfa Sally Holland arolwg dros gyfnod o wyth diwrnod, ac mi dderbyniwyd ymatebion gan 167 o arweinwyr ysgolion a cholegau.

Ac mae’r gwaith yn dangos bod yna lu o rwystrau, gyda llawer o’r rhain yn gysylltiedig â dyfeisiau. Mae dros hanner yr ysgolion a cholegau yn son bod ganddynt ddisgyblion o gartrefi sydd heb fynediad at y we.

Wrth ymateb i’r arolwg mae’r Comisiynydd wedi cynnig sawl argymhelliad, ac wedi galw am weithredu gan Lywodraeth Cymru.

“Cefais fy nharo’n arbennig gan yr ymdrech sylweddol ac amrywiol yr oedd yr ysgolion a’r colegau wedi mynd iddi i ddarparu ar gyfer anghenion amrywiol eu disgyblion, i’w cael nhw i gyd ar-lein ac i ddarparu gwersi priodol a chefnogaeth llesiant gan ddefnyddio ystod eang o ddulliau,” meddai.

“Ond mae rhaniad digidol yn dal i fodoli yng Nghymru i ddysgwyr.”

Y canfyddiadau

Mae’r arolwg yn dangos bod:

  • 42% o’r lleoliadau heb ddigon o ddyfeisiau
  • rhai cartrefi heb fynediad at y rhyngrwyd mewn dros 52% o’r ysgolion a’r colegau
  • rhai cartrefi heb fynediad at ddigon o ddata mewn 46% o’r ysgolion a’r colegau
  • teuluoedd ddim yn cysylltu â’r ysgol neu goleg i wneud trefniadau ar gyfer mynediad digidol (mewn 49% o’r lleoliadau)
  • o leiaf 20% o’r dysgwyr heb fynediad at ddyfais ddigidol (yn 12% o’r ysgolion a holwyd)

Argymhellion

Mae’r Comisiynydd wedi galw ar i gynghorau a Llywodraeth Cymru ystyried canfyddiadau’r arolwg er mwyn sicrhau bod problemau cyflenwi dyfeisiau “yn cael eu datrys yn syth.”

Mae hefyd wedi galw ar i’r Llywodraeth fynd ati “ar frys” i gysylltu â darparwyr band eang a symudol a sicrhau bod yna ddarpariaeth ddigonol i ddisgyblion Cymru.

Wrth drafod mynediad at ddyfeisiau gyda golwg360, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae dros 130,000 o ddyfeisiau wedi cael eu darparu ers dechrau’r pandemig.
 
“Rydyn ni’n cydnabod bod heriau ymarferol o ran cysylltedd, ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol i helpu ysgolion a theuluoedd i ddeall yr amrywiol gynigion sydd ar gael gan ddarparwyr gwasanaethau telathrebu.”

Yn ogystal, mae angen i’r Llywodraeth ddatblygu sgiliau digidol ymhlith rhieni a gofalwyr ledled y wlad “ar gyfer yr hirdymor”, yn ôl y Comisiynydd.
 
Wrth ymateb i hyn, dywedodd y llefarydd wrth golwg360: “Rydyn ni’n deall pa mor anodd yw hi i rieni sy’n ceisio addysgu gartref a dygymod â phwysau gwaith ar yr un pryd. Dylai rhieni a gofalwyr gysylltu ag ysgol eu plentyn os ydyn nhw’n bryderus neu angen cymorth.
 
“Rydyn ni wedi recriwtio dros 1,000 o staff addysgu a chymorth i roi cefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr sydd o bosib wedi colli amser addysgu yn sgil y pandemig.”

Y sefyllfa hyd yma

Tair wythnos yn ôl cyhoeddodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, y byddai ysgolion Cymru yn aros ar gau tan ganol fis Chwefror ar y cynharaf.

Gerbron un o bwyllgorau’r Senedd yr wythnos ddiwethaf dywedodd y gweinidog bod y Llywodraeth yn ystyried “pob opsiwn” o ran ailagor ysgolion.

Yn siarad ddiwedd llynedd lleisiodd Sally Holland ei phryderon ynghylch cau ysgolion.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.

 

Llun pen ac ysgwydd o Leanne Wood

Leanne Wood yn galw am ddarparu data am ddim i blant yng Nghymru heb fynediad at y rhyngrwyd

“Dyw hyn ddim yn deg, a’r cyfan a wnaiff yw gwaethygu’r cysylltiad rhwng cyrhaeddiad gwael a thlodi yng Nghymru”