Dydyn ni ddim yn dda iawn yng Nghymru wrth ddathlu prosiectau a rhaglenni sy’n gweithio.

Dyna farn Helen Mary Jones, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, yn sgil lansiad adroddiad a gomisiynwyd ganddi ar yr economi yn y wlad hon.

Mae’r ddogfen, ‘Beth yw diben ein heconomi? Cymru ôl-ddiwydiannol ar ôl Covid-19’, a sgwennwyd gan yr ymchwilydd Dr Mark Lang, yn cyfeirio at lu o broblemau economaidd ac yn tynnu sylw at atebion posib o wledydd eraill.

O fod ynghlwm wrth y gwaith ymchwil, mae’r AoS yn dweud bod yna “lot o ymchwil i broblemau” y wlad hon, ond llawer yn llai o waith ynghylch y llwyddiannau sydd wedi bod.

Ac mae’n awgrymu bod hyn yn arwydd o ddiffyg llawer dyfnach.

“Dydyn ni ddim yn dda iawn wrth ddathlu’r pethau sy’n gweithio,” meddai wrth golwg360.

“A dydyn ni hefyd ddim yn dda iawn, pan rydym yn gweld bod rhywbeth wedi gweithio mewn un lle, o wneud yr ymchwil i ffeindio mas pam bod hyn wedi bod yn llwyddiannus er mwyn helpu i bethau tebyg ddigwydd mewn cymunedau sy’n wynebu problemau tebyg.

“Rydyn ni wedi bod â bach o project culture ers datganoli, lle mae’r Llywodraeth yn barod i roi arian i mewn i grwpiau i wneud rhywbeth newydd ond dydyn ni ddim yn dda iawn wrth ddysgu’r gwersi o’r prosiectau yna a datblygu pethau tebyg mewn llefydd eraill.”

Os yw un cwm yn derbyn canolfan gelfyddydau a bod hynny’n llwyddiant mawr, meddai fel enghraifft, mi ddylai bod ffigyrau o’r cwm nesaf yn cael cyfle i brofi hynny ac i ddysgu ohono.

Edrych at wledydd eraill

Mae’r adroddiad yn edrych at lwyddiannau gwledydd eraill, ac yn cynnig enghreifftiau o’r hyn y gallai Cymru efelychu.

Er enghraifft, mae’n sôn am sut y gwnaeth Bilbao, yng Ngwlad y Basg, drawsnewid llefydd ôl-ddiwydiannol trwy dwristiaeth.

Ac mae’n cyfeirio at lwyddiannau Gwlad yr Iâ wrth ddatblygu ynni adnewyddadwy – mae 85% o’r ynni yno yn cael ei gynhyrchu yn y wlad ei hun trwy ddulliau gwyrdd.

Er bod Cymru’n rhannu rhai agweddau â’r gwledydd yma o ran caledi ôl-ddiwydiannol, a chyfoeth naturiol, onid yw hi’n ofer cymharu ein sefyllfa â gwledydd eraill? Onid oes angen atebion unigryw?

Mae Helen Mary Jones yn cydnabod mai ysbrydoliaeth yw llwyddiannau’r gwledydd yma, nid atebion y gallwn eu copïo yn berffaith.

“A dweud y gwir, pan wnes i gomisiynu’r gwaith gan Dr Lang o’n i’n gobeithio y byddai’n medru edrych at [wledydd eraill] a dweud: ‘O dyna ni, dyna rywbeth sy’n gweithio. Wnawn ni dynnu hynna i fyny ac os yw’n gweithio gallwn ei osod i lawr yng Nghymoedd y De,’” meddai.

“Wel, nid dyna wnaeth e’ ffeindio. Wnaeth e’ ffeindio gwahanol syniadau sydd wedi gweithio mewn gwahanol ffyrdd, mewn gwahanol gymunedau – rhai ohonyn nhw gyda lot yn gyffredin â chymunedau ôl-ddiwydiannol er bod dim byd yn union yr un peth.

“Felly mae yna syniadau y gallwn ni eu defnyddio ond does dim un model syml y gallwn eu trosglwyddo.”

Adroddiad newydd, hen ddadleuon?

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at sawl her ac yn eu plith mae: sialensau cymunedau ôl-ddiwydiannol, trafferthion anghydraddoldeb, a’r angen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Yn amlwg mae pob un o’r rhain yn faterion hynod bwysig sy’n haeddu sylw, ond onid ydyn nhw oll wedi cael eu trafod hyd syrffed? Pa ongl newydd mae’r adroddiad yn cynnig yn hyn o beth?

Mae’r AoS yn cydnabod hynny ac yn awgrymu mai pwrpas yr adroddiad yw cynyddu’r pwysau ymhellach ar Lywodraeth fel eu bod yn gweithredu yn y meysydd yma.

“Ydyn, maen nhw wedi cael eu trafod o’r blaen,” meddai. “Ond fel oedd yr hen suffragettes yn arfer dweud – deeds not words.

“A rhywbeth sydd wedi dod allan yn glir i fi mewn sawl maes ers i fi ddod nôl i fywyd cyhoeddus ar ôl cyfnod mas ohono fe yw bod gyda ni lot o bolisïau cryf yng Nghymru.

“Ond dyw’r gweithrediad ddim wastad yn dilyn y polisi.”

Ymateb Llywodraeth Cymru 

Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae’r pandemig wedi cael effaith enfawr ar ein heconomi ac mae’n hanfodol ein bod yn adfer yn gryfach nag o’r blaen.  Mae cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer ail-adeiladu’r economi yn canolbwyntio ar economi werdd, gyfartal a llewyrchus sy’n pwysleisio ar fuddsoddi mewn pobl a lleoedd i lunio economi fwy cynhwysfawr.

“Rydyn ni’n buddsoddi yn sylfeini’r economi yng Nghymru, fel bod pob cymuned yng Nghymru yn fywiog, llewyrchus, iach, cydlynus a chadarn.

“Mae ein Cronfa Her yr Economi Sylfaenol yn cefnogi prosiectau i brofi ffyrdd newydd o sicrhau bod yr economi bob dydd yn gweithio’n well ar gyfer pob cymuned yng Nghymru.  Mae’n cydnabod nad yw bob amser yn briodol i ‘godi a symud’ syniadau o un gymuned i’r llall, ond ble y bo’n briodol, rydyn ni wedi ymrwymo i ledaenu a graddio arferion da – mae’r llais lleol yn parhau yn allweddol wrth benderfynu ar yr hyn sy’n gweithio.”