Bydd y gwaith o ddymchwel adeiladau ar Stryd Fawr Bangor, a ddifrodwyd gan dân, yn dechrau fis Chwefror.

Difrodwyd y ddau adeilad mewn tân fis Rhagfyr 2019. 

Achosodd y tân ddifrod strwythurol sylweddol i fwyty Noodle One ac eiddo cyfagos, ac mae Stryd Fawr Bangor wedi bod ar gau i gerbydau ers hynny.

‘Aflonyddwch’

Mae Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd yn cydnabod yr effaith mae’r sefyllfa wedi’i gael ar drigolion a masnachwyr lleol.

“Rwy’n hynod falch felly ein bod wedi cyrraedd sefyllfa lle gall gwaith nawr ddechrau ar y safle, gyda golwg ar ailagor y rhan yma o’r Stryd Fawr i draffig cyn gynted â phosib,” meddai.

“Byddwn yn gofyn am ddiweddariadau a mwy o sicrwydd ar yr amserlen wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.”

Bwriedir cwblhau’r gwaith mewn dwy ran gan gryfhau’r ffordd ar gyfer lleoli craen yn gyntaf cyn dechrau’r gwaith o ddymchwel yr adeiladau.

Eglurodd John Evans o Beirianwyr EWP sy’n gweithio ar ran perchnogion yr adeiladau y bu’n rhaid cynnal “ymchwiliadau sylweddol” yn dilyn y tân.

“Mae cyflwr a lleoliad yr eiddo sydd wedi’u difrodi gan dân a chyflwr gwael y ddaear wedi golygu ymchwilio sylweddol a rhoi mesurau lliniaru risg mewn lle,” meddai.

“Rydym nawr mewn sefyllfa i ddechrau paratoadau pellach i ddymchwel y ddau eiddo gyda gwaith yn cychwyn ar y safle wythnos nesaf.”

Rhagwelir bydd y gwaith o ddymchwel yr adeiladau yn cymryd oddeutu 6 wythnos i’w gwblhau.

Galw am eglurder ynghylch ailagor stryd fawr Bangor yn dilyn tân mis Rhagfyr

Hywel Williams a Siân Gwenllian yn pryderu bod “y cynnydd o ran adfer y sefyllfa wedi arafu”