Mae’r heddlu wedi cadw dyn yn y ddalfa ar ôl i becyn amheus gael ei anfon i safle cynhyrchu brechlyn coronafeirws yn Wrecsam.
Bu’n rhaid i’r holl staff adael safle Wockhardt yn Wrecsam ddoe (dydd Mercher 27 Ionawr) tra bod ymchwiliad i’r pecyn yn cael ei gynnal.
Mae’r cwmni fferyllol a biotechnoleg byd-eang yn darparu gwasanaethau ‘llenwi a gorffen’ ar gyfer brechlyn Covid-19 Rhydychen/AstraZeneca – hynny yw, y cam olaf o baratoi’r brechlyn ar gyfer ei gludo.
Daeth gwaith i stop am oriau tra bod yr heddlu a’r fyddin yn ymchwilio i’r pecyn amheus – ond deellir nad effeithiwyd ar yr amserlen gynhyrchu.
Brynhawn Iau, cyhoeddodd Heddlu Caint eu bod wedi arestio dyn ar amheuaeth o anfon y pecyn.
Mae’r dyn 53 oed, o Chatham, yn y ddalfa.
Fel rhan o’r ymchwiliadau, cyflwynodd yr heddlu warantau mewn cyfeiriadau yn Luton Road a Chatham Hill yn ardal Medway fore Iau.
Dywedodd yr heddlu nad oes “unrhyw dystiolaeth” i awgrymu bod bygythiad parhaus.