Nid ‘annibyniaeth’ a’r ‘drefn ohoni’ yw’r unig opsiynau sydd gan Gymru, yn ôl y Prif Weinidog.

Mewn cyfweliad â Byd yn ei Le, a fydd yn cael ei ddarlledu ddydd Sul, mae Mark Drakeford yn rhannu ei deimladau yntau am ddyfodol y Deyrnas Unedig.

“Dydy’r dewis ddim rhwng ble rydym ni nawr ac annibyniaeth,” meddai. “Mae mwy nag un dewis i’w wneud.

“I fi, be dw i eisiau gweld yw datganoli cadarn â sail gadarn hefyd. Mewn Teyrnas Unedig sydd wedi cael ei hailgreu, ar ôl ugain mlynedd o ddatganoli. Ac ar ôl profiadau coronafeirws hefyd.

“Dydy’r Deyrnas Unedig ddim yn gallu cario ymlaen fel y mae hi heddiw. Bydd yn rhaid i ni ail-greu y Deyrnas Unedig mewn ffordd lwyddiannus.

“A lle i Gymru yn y Deyrnas Unedig lwyddiannus – ond gyda phwerau cryf ar sail gadarn gyda ni fan hyn.”

Mae’n dweud bod datganoli wedi arwain at sefydlu llywodraeth sydd yn medru gwneud “penderfyniadau addas” tros bobol Cymru.

Ond mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd yr undeb iddo gan nodi: “Yn fy marn i mae nifer o bethau mawr ble mae’n well i ni gydweithio â’n gilydd pan r’yn ni eisiau gwneud hynny”.

Yn ddiweddarach yn y sgwrs mae’n dweud bod ganddo’r argraff bod Boris Johnson am “droi’r Deyrnas Unedig yn ôl i ble oeddem ni yn y 70au cyn yr Undeb Ewropeaidd”.

Llafur a ffederaliaeth

Nid dyma’r tro cyntaf i Mark Drakeford – nac ychwaith i weinidog Llywodraeth Cymru – leisio’i awydd am ddiwygio.

Ddechrau’r mis mi roedd y Prif Weinidog ynghlwm wrth lansiad adroddiad gan y grŵp ‘Ffederaliaeth Radical’. Dogfen a luniwyd gan aelodau Llafur (ymhlith ffigyrau eraill) ac sy’n galw am drefn ffederal.

“Ni ddylid ildio i symlrwydd ‘unoliaeth’ neu ‘genedlaetholdeb’,” meddai’r Prif Weinidog bryd hynny. “Yn hytrach, rhaid ar ail-luniad radical o’r Deyrnas Unedig.

Mae Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, wedi rhannu ei farn am y mater mewn cyfweliad diweddar â gwefan LabourList.

“Nid annibyniaeth yw’r unig ddiwygiad radical,” meddai. “Mae yna weledigaeth gyffrous y gallwn ni ei chynnig hefyd.”