Mae gweithwyr Wockhardt yn Wrecsam wedi cael dychwelyd i’r safle yn dilyn “atal gweithgynhyrchu dros dro”, meddai’r cwmni.

Cafodd yr holl weithwyr eu symud o safle Wockhardt, sy’n cyflogi tua 400 o bobl, ddydd Mercher.

Mae’r cwmni fferyllol a biotechnoleg byd-eang yn darparu gwasanaethau ‘llenwi a gorffen’ ar gyfer brechlynnau Covid-19 Rhydychen/AstraZeneca – hynny yw, y cam olaf o baratoi’r brechlyn i’w gludo.

Dywedodd llefarydd: “Gallwn gadarnhau bod yr ymchwiliad i’r pecyn amheus a dderbyniwyd heddiw wedi dod i ben.

“O ystyried mai diogelwch staff yw ein prif flaenoriaeth, cafodd gweithgynhyrchu ei oedi dros dro tra bod hyn yn digwydd yn ddiogel.

“Gallwn nawr gadarnhau bod y pecyn wedi’i wneud yn ddiogel a bod staff bellach yn cael dychwelyd i’r cyfleuster.

“Nid yw’r ataliad dros dro hwn ar weithgynhyrchu wedi effeithio ar ein hamserlen gynhyrchu o gwbl ac rydym yn ddiolchgar i’r awdurdodau a’r arbenigwyr am eu hymateb cyflym a’r datrysiad.”

Datganiad Heddlu Gogledd Cymru

Mae cynnwys y pecyn amheus wedi ei anfon i gael ei ddadansoddi, meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd llefarydd: “Cawsom alwad am 10.41am y bore yma (dydd Mercher) yn adrodd bod pecyn amheus wedi’i dderbyn yn ffatri Wockhardt ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.

“Bu swyddogion yno’n gosod cordon diogelwch o amgylch y safle, gan gau ffyrdd i bob traffig.

“Roedd cydweithwyr o uned gwaredu bomiau yn bresennol i archwilio’r pecyn a sicrhau ei fod yn ddiogel i’w drin. Bydd y cynnwys yn cael ei anfon i’w ddadansoddi a bydd yr heddlu’n cynnal ymchwiliad i’r amgylchiadau sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad.

“Nid oes unrhyw bryderon ehangach am ddiogelwch y cyhoedd, ond bydd rhai ffyrdd ar yr ystâd ddiwydiannol yn parhau ar gau wrth i ni barhau â’n hymchwiliadau.”

“Uffern o ffrwydrad neu bang”

Yn gynharach, dywedodd John Roberts, sy’n rhedeg CMS Wrexham Ltd, drws nesaf i’r ffatri, wrth BBC Wales ei fod wedi clywed “bang mawr” tua 11:35 y bore – er na allai ddweud o ble y daeth y sŵn.

“Rydyn ni drws nesaf i Wockhardt. Roedd tri ohonom yn siarad yna clywsom uffern o ffrwydrad neu bang,” meddai.

“Es i allan, doeddwn i ddim yn gallu gweld dim. Edrychais yr ochr arall ac roedd dau foi ar y to.

“Y peth nesaf yr oedd yr heddlu wedi rhoi rhwystrau ar y ffordd ac yn edrych yn y llwyni.”

Dywedodd ei fab Mark Roberts: “Teithiodd Boris Johnson o amgylch y ffatri tua mis Rhagfyr, felly tybed a yw hynny wedi codi’r proffil, gan mai dyma lle maen nhw’n gwneud brechlyn Rhydychen.”

Dywedodd Dave Picken, 53, sy’n byw ger Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam: “Rydym wedi gweld llawer o geir yr heddlu ac injan dân.

“Mae tîm gwaredu bomiau yma gyda robot.

“Roedden ni’n nes at y ffatri ond dywedodd yr heddlu wrthym am symud.

“Fe wnes i ofyn i swyddog pa mor fawr yw’r bom ond dywedodd na allai ddweud ei fod yn fom.”

Llifogydd

Yr wythnos ddiwethaf, cafodd timau argyfwng eu galw allan i ddiogelu cyflenwadau o frechlyn coronafeirws Prifysgol Rhydychen ac AstraZeneca yn dilyn llifogydd yn yr ystâd ddiwydiannol.

Cymerwyd yr holl “ragofalon angenrheidiol” i atal tarfu ar weithgynhyrchu’r pigiad, meddai llefarydd Wockhardt ar y pryd.

Brechlyn

Ffatri sy’n cynhyrchu’r brechlyn coronafeirws yn Wrecsam yn ddiogel ar ôl bygythiad llifogydd

“Hoffem sicrhau pawb bod y safle’n ddiogel ac yn gweithredu fel yr arfer”

Boris Johnson: brechlyn coronafeirws ar gael “ymhen ychydig wythnosau, gyda lwc”

Roedd Prif Weinidog Prydain yng nghyfleuster y cwmni fferyllol Wockhardt yn Wrecsam – lle gobeithir y caiff brechlyn AstraZeneca ei gynhyrchu