Mae ffatri sy’n cynhyrchu’r brechlyn Covid Rhydychen/Astra Zeneca ar stad ddiwydiannol Wrecsam wedi’i diogelu ar ôl bygythiad o lifogydd yn sgil Sorm Christoph dros nos.

Bu’n rhaid i’r gwasanaethau brys gael eu galw i warchod ffatri Wockhardt ar stad ddiwydiannol Wrecsam rhag y dŵr.

Mae’r brechlyn yn cael ei gynhyrchu a’i storio yno ers i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddod i gytundeb 18 mis gyda chwmni fferyllol a biotechnoleg byd-eang Wockhardt i gyflawni’r broses weithgynhyrchu, sy’n golygu rhoi sylwedd y brechlyn mewn ffiol yn barod i’w ddosbarthu.

Dechreuodd y gwaith ym mis Medi 2020.

Wrth siarad â BBC Radio Wales, dywedodd Arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard: “Cawsom ddigwyddiad yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, lle mae’r brechlyn Rhydychen yn cael ei gynhyrchu a’i storio.

“Yn amlwg alla i ddim dweud wrthych ble mae, ond roedd rhaid i ni weithio mewn partneriaeth i wneud yn siŵr na wnaethon ni golli’r brechlynnau yn y llifogydd.”

Dywedodd Wockhardt UK, sy’n cynhyrchu’r brechlyn yn Wrecsam: “Yn dilyn adroddiadau o lifogydd yn ardal Wrecsam, roedd Wockhardt UK wedi cael rhywfaint o lifogydd ddoe hefyd.

“Cymerwyd yr holl gamau angenrheidiol heb amharu ar weithgynhyrchu.

“Hoffem sicrhau pawb bod y safle’n ddiogel ac yn gweithredu fel yr arfer.”