Mae o leiaf 28 o bobl wedi’u lladd a 73 wedi’u hanafu ar ôl i ddau hunan-fomiwr ffrwydro bomiau mewn marchnad brysur yn Baghdad yn Irac.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ardal fasnachol Bab al-Sharqi ynghanol Baghdad fore dydd Iau (Ionawr 21). Daw’r ymosodiad wrth i densiynau ddwysau dros gynnal etholiadau cynnar yn y wlad a’r argyfwng economaidd difrifol.

Dywedodd byddin Irac bod o leiaf 28 o bobl wedi’u lladd a bod rhai o’r 73 gafodd eu hanafu yn yr ymosodiad mewn cyflwr difrifol.

Dyma’r ymosodiad cyntaf gan hunan-fomwyr yn yr ardal fasnachol yn Baghdad ers tair blynedd. Bu ymosodiad yn yr un ardal yn 2018 yn fuan ar ôl i’r prif weinidog ar y pryd Haidar al-Abadi hawlio buddugoliaeth dros y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yn hyn.