Mae Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, wedi dechrau ar y gwaith o ddadwneud rhai o bolisïau Donald Trump.
Ymysg y rhain mae gwrthdroi polisi gweinyddiaeth Donald Trump ar newid hinsawdd a Covid-19.
Arwyddodd Joe Biden 15 o orchmynion gweithredol yn ystod ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd, gan sicrhau hwb sylweddol i’r ymateb ffederal i bandemig y coronafeirws.
Cafodd Joe Biden, yn ogystal â’r dirprwy Arlywydd, Kamala Harris, ei hurddo mewn seremoni heb dorf ddoe (dydd Mercher, Ionawr 20).
Dydy arlywyddiaeth Joe Biden ddim wedi cael ei gymeradwyo, na’i gydnabod hyd yn oed, gan ei ragflaenydd Donald Trump.
“Heddiw rydym yn dathlu buddugoliaeth, nid buddugoliaeth ymgeisydd ond buddugoliaeth achos – achos democratiaeth,” meddai Joe Biden ar ôl cael ei urddo.
“Dyma ddiwrnod America. Dyma ddiwrnod democratiaeth. Diwrnod o hanes a gobaith.”
“Does dim amser i’w wastraffu”
Yn fuan wedi’r seremoni, gan ddefnyddio ei gyfri Twitter newydd, @POTUS, dywedodd yr Arlywydd Biden: “Does dim amser i’w wastraffu i fynd i’r afael â’r argyfyngau sy’n ein hwynebu.
Bydd cyfres o fesurau’n cael eu gweithredu i fynd i’r afael â’r pandemig coronafeirws sydd wedi hawlio mwy na 400,000 o fywydau yn yr Unol Daleithiau.
Bydd mandad i wisgo mygydau a chadw at reolau ymbellhau cymdeithasol ar holl eiddo’r llywodraeth ffederal.
Bydd swyddfa newydd yn cael ei sefydlu i gydlynu’r ymateb i’r pandemig a bydd yr Unol Daleithiau yn atal y broses – a ddechreuwyd gan weinyddiaeth Trump – o dynnu’n ôl o Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).
Mae’r Arlywydd Biden hefyd wedi addo gwneud y frwydr yn erbyn newid hinsawdd yn un o brif flaenoriaethau ei weinyddiaeth.
Llofnododd orchymyn gweithredol yn dechrau’r broses o ailymuno â chytundeb hinsawdd Paris 2015.
Roedd Donald Trump wedi tynnu’r Unol Daleithiau o’r cytundeb yn ffurfiol y llynedd.
O ran mewnfudo, mae Joe Biden wedi dad-wneud datganiad brys gan weinyddiaeth Trump a oedd wedi ariannu’r gwaith o adeiladu wal ar hyd ffin Mecsico a hefyd wedi dod â gwaharddiad teithio i ben ar rai gwledydd Mwslimaidd.