Mae’r ddarlledwraig Beti George wedi cadarnhau iddi wrthod gwahoddiad i fod yn Aelod o’r Ymerodaeth Brydeinig.

Cafodd y ddarlledwraig, sydd newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 82 oed yr wythnos hon, y gwahoddiad am ei chyfraniad i’r cyfryngau ac i elusennau.

“Cefais anrheg Nadolig annisgwyl iawn, gyda llaw,” meddai mewn colofn ar wefan BBC Cymru Fyw sy’n trafod treulio’r cyfnodau clo ar ei phen ei hun.

“Roedd rhywun neu rywrai yn credu mod i’n haeddu bod yn Aelod o’r Ymerodraeth Brydeinig am fy nghyfraniad i’r cyfryngau ac elusen.

“A mawr yw fy ngwerthfawrogiad o’u cefnogaeth. Ond teimlwn mai rhagrith fyddai i mi dderbyn.

“Dw i wedi cael fy nhalu am fy ngwaith ar y cyfryngau, a phitw yw fy nghyfraniad i i’r ymgyrch i drio gwella bywydau pobl â dementia a’u gofalwyr, o’i gymharu ag eraill sy’n ymroi’n dawel ac yn ddi-sylw.”

Bu Beti George yn gofalu am ei phartner David Parry-Jones ar ôl iddo gael diagnosis o glefyd Alzheimer yn 2009 –  bu farw’r cyn-ddarlledwr a sylwebydd rygbi yn 2017.

“Dw i hefyd yn weriniaethwr ac mae’r Ymerodraeth i mi yn symbol o ormes, caethwasiaeth a dioddef,” ychwanegodd Beti George.

‘Mewn cwmni da’

Eglurodd Beti George, sydd wedi parhau i recordio ei chyfres ‘Beti a’i Phobol’ i Radio Cymru o’i chartref yn ystod y cyfnodau clo, nad hi yw’r unig berson i wrthod anrhydedd gan y Frenhines.

“Dw i mewn cwmni da – rhai fel Hywel Gwynfryn a’r diweddar Carwyn James, ac mae’n siŵr bod ’na lawer rhagor,” meddai.

Ymhlith y Cymry adnabyddus eraill sydd wedi gwrthod anrhydedd gan y Frenhines mae’r awdur Roald Dahl, y gwleidydd James Griffiths a’r gyfansoddwraig Grace Williams.