Y darlledwr a sylwebydd rygbi David Parry-Jones yn y 1970au hwyr, Llun: BBC
Mae’r darlledwr a chyn-sylwebydd rygbi BBC Cymru, David Parry-Jones, wedi marw yn 83 oed.
Roedd wedi cael diagnosis o glefyd Alzheimer’s yn 2009 ac wedi bod yn cael gofal gan ei bartner, y ddarlledwraig Beti George, yn eu cartref yng Nghaerdydd.
Roedd yn gyn-gyflwynydd y rhaglen newyddion Wales Today ac yn gyn-sylwebydd rygbi ar gyfer BBC Radio 5 Live.
Roedd y cwpl wedi ffilmio rhaglen ddogfen ar gyfer y BBC yn gynharach eleni yn son am yr heriau a’r anawsterau sy’n wynebu pobl sy’n byw ac yn gofalu am rywun ag Alzheimer’s, “Beti and David: Lost for Words…”
“Un o’r goreuon”
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: “David oedd y darlledwr cyflawn – yn uchel ei barch yma yng Nghymru a thu hwnt. Roedd ei awdurdod a’i gyfaredd yn ei wneud yn gyflwynydd naturiol ar BBC Wales Today. Ac yn y blwch sylwebu fe oedd llais rygbi Cymru – yn un o’r goreuon yn sicr.
“Yn fwy diweddar, mae ei frwydr gyhoeddus gyda dementia – a’r gofal arbennig gan ei bartner, Beti George – wedi helpu miliynau o bobl i ddeall mwy am yr her o fyw gydag Alzheimer’s, gan ysgogi dadl gyhoeddus ynglŷn â gofal dementia.
“Mae ein cydymdeimlad heddiw, wrth gwrs, gyda theulu Beti a David.”
‘Darlledwr deallus’
Mewn teyrnged dywedodd Gareth Davies, Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru: “Roedd David Parry-Jones yn was arbennig i’r gêm, roedd yn hynod boblogaidd ar draws rygbi Cymru, yn ddarlledwr deallus a oedd yn meddu ar bersonoliaeth gynnes fyddai’n ennyn parch gan bwy bynnag y byddai’n dod i gysylltiad â nhw.
“Ar nodyn personol, roedd yn ffynhonnell arbennig o gyngor imi wrth ystyried mynd i Brifysgol Rhydychen fel myfyriwr ôl-raddedig ac yn rhywun a oedd bob amser â geiriau caredig i’w dweud pan fyddwn i’n ei weld adeg fy nghyfnod yn chwarae,” ychwanegodd Gareth Davies.
“Fe fydd yn cael ei golli’n fawr ac rydym yn cydymdeimlo â’i deulu a’i ffrindiau agos.”