“Mae pobl ifanc wedi bod yn mynd drwy’r system addysg am rhy hir heb ddysgu’n iawn am stori eu cymuned na’u gwlad.”
Dyna mae’r Aelod Cynulliad, Bethan Sayed, wedi rhybuddio wrth i’w phwyllgor lansio adroddiad ar ‘Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth’.
Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi galw am ganllawiau llymach ynghylch yr hyn a ddylai gael ei ddysgu mewn gwersi hanes ledled Cymru.
Ac maen nhw am weld Estyn, y corff arolygu, yn cynnal adolygiad er mwyn cael gwell syniad o sut mae’r pwnc yn cael ei ddysgu ar hyn o bryd.
“Rhaid dysgu hanes Cymru fel rhan o addysg ein plant…” meddai Bethan Sayed, Cadeirydd y Pwyllgor.
“Gyda chwricwlwm newydd ar y gorwel, mae ein hymchwiliad wedi taflu goleuni ar yr anghysondeb ledled Cymru a rhai o’r rhesymau pam nad yw hanes Cymru yn cael y sylw y mae’n ei haeddu.”
Y cwricwlwm newydd
Mae disgwyl i gwricwlwm newydd Cymru ddechrau yn 2022, a dan y drefn yma mi fydd ‘hanes’ yn cael ei dysgu fel rhan o faes ehangach ‘dyniaethau’.
Mae disgwyl hefyd i athrawon gael rhagor o ryddid i ddysgu beth y mynnant, ac mae’r adroddiad yn tynnu sylw at bryderon yn gysylltiedig â hyn.
Y pryder yw y gallai hyn arwain at anghysondebau ledled y wlad, gyda phlant yn dysgu mwy am eu hardaloedd lleol nac am hanes y genedl.
Gofid arall yw bod yna ddiffyg gwybodaeth am ansawdd yr addysg ar hyn o bryd, ac mae’r pwyllgor yn credu gallai adolygiad Estyn fynd i’r afael â hyn.