Mae grŵp Islamaidd eithafol o lain Gaza yn dweud ei fod wedi cytuno ar gadoediad ag Israel.

Mae’r ddwy ochr wedi bod yn brwydro’n ffyrnig ers i Israel ladd un o arweinwyr y grŵp, a hyd yma mae 32 Palestiniad wedi cael eu lladd.

Yn ôl llefarydd ar ran y grŵp, daeth y cadoediad i rym y bore ma (dydd Iau, Tachwedd 14) ac mi roedd yr Aifft ynghlwm â’r trafodaethau.

Dan y cytundeb, meddai, mae disgwyl i Israel rhoi’r gorau i’w hymosodiadau ar arweinwyr y grŵp.

Mae Israel wedi dweud y byddan nhw’n parhau i gynnal cyrchoedd ar bobol sy’n ei bygwth.