Mae Capten Syr Tom Moore, a ddaeth i amlygrwydd wedi iddo helpu i godi swm sylweddol o arian ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, wedi marw â Covid-19.

Fe wnaeth e helpu i godi £32.7m i’r Gwasanaeth Iechyd drwy gerdded o amgylch ei ardd yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ac fe gafodd ei urddo’n farchog mewn seremoni yng nghastell Windsor yn sgil ei ymdrechion.

£1,000 oedd ei nod, ond fe aeth y swm i mewn i’r miliynau ar ôl i’w fenter gydio yn nychymyg pobol ar y we.

Aeth e a’i deulu ar daith i Barbados fis Rhagfyr y llynedd, a’r daith wedi’i hariannu gan British Airways.

Mae lle i gredu ei fod e wedi cael ei daro’n wael yn ystod y daith a’i fod e wedi bod yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Teyrngedau

Cafodd y newyddion am ei farwolaeth ei gyhoeddi gan ei ferched, Hannah Ingram-Moore a Lucy Teixeira.

Roedden nhw, ynghyd ag aelodau eraill y teulu, yn ei ymyl pan fu farw, meddai’r datganiad.

“Fe wnaethon ni dreulio oriau’n sgwrsio â fe, yn hel atgofion am ein plentyndod a’n mam hyfryd,” meddai ei ferched.

“Fe wnaethon ni chwerthin a rhannu dagrau.

“Roedd blwyddyn olaf bywyd ein tad yn ddim llai na rhyfeddol.

“Cafodd ei adfywio ac fe brofodd e bethau y gwnaeth e ond freuddwydio amdanyn nhw [cyn hynny].

“Tra ei fod e wedi bod yng nghalonnau cynifer o bobol am gyfnod mor fyr, roedd e’n dad ac yn dad-cu anhygoel, a bydd e’n aros yn fyw yn ein calonnau ni am byth.”

Maen nhw’n dweud iddo gael gofal “eithriadol” gan y Gwasanaeth Iechyd, a’i fod e’n “falch o allu gadael gwaddol gynyddol drwy ei Sefydliad”.

Roedd eraill, gan gynnwys Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi bod yn dymuno’n dda iddo dros y dyddiau diwethaf.