Mae trigolion Powys wedi cael eu rhybuddio i fod yn wyliadwrus ynghylch twyll sy’n gysylltiedig â rhaglen frechu Covid-19.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau bod e-byst, negeseuon testun a gwefanau amheus yn ceisio twyllo pobol a dwyn eu harian dros yr wythnosau diwethaf.

Mae nifer o’r negeseuon twyllodrus hyn yn gwahodd pobol am frechlyn Covid-19 ac yn mynd â nhw i wefan ffug y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedyn yn gofyn am fanylion personol.

Mae trigolion wedi cael eu hatgoffa mai dim ond gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y mae brechlynnau Covid-19 ar gael a’u bod yn rhad ac am ddim.

Mae’r Cyngor wedi dweud wrth bobol sy’n derbyn e-bost, neges destun, neu alwad ffôn sy’n gofyn i chi ddarparu eich manylion banc yn gyfnewid am frechlyn mai twyll ydyn nhw.

“Gwarthus”

“Mae’n warthus bod y troseddwyr hyn yn defnyddio’r feirws fel ffordd o dargedu pobol, a dyna pam ei bod mor hanfodol aros yn wyliadwrus a peidio â syrthio’n ddioddefwr i’w ffyrdd twyllodrus,” meddai’r Cynghorydd Graham Breeze, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Rheoleiddio y Cyngor.

“Mae ein Tîm Safonau Masnach wedi cael gwybod am lawer o sgamiau drwy gydol y pandemig hwn ac felly rydym yn parhau i ofyn i bobl fod yn ymwybodol ohonynt a rhannu’r wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu.

“Mae rhai sgamiau’n fwy argyhoeddiadol nag eraill, ond os nad yw rhywbeth yn edrych neu’n swnio’n iawn, nid yw fel arfer.”