Mae Undod a rhwydwaith y Prisoner Solidarity Network yn cydweithio er mwyn rhoi terfyn ar erledigaeth yn erbyn siaradwyr Cymraeg yng ngharchar y Berwyn yn y gogledd.

Mae adroddiadau gan sawl carcharor iddyn nhw gael rhybudd y bydden nhw’n colli eu breintiau am siarad Cymraeg yn y carchar, bod oedi o fis a mwy wrth dderbyn post yn y Gymraeg a bod siaradwyr Cymru yn cael eu gwahanu oddi wrth ei gilydd yno.

Ers i Nick Leader gael ei benodi’n Llywodraethwr ar y carchar yn 2019, y Berwyn sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn trais a hunan-niweidio o blith holl garchardai Cymru.

Ymgyrch

Cafodd Undod a’r PSN wybod am y sefyllfa ac fe wnaethon nhw sefydlu ymgyrch ddydd Mercher (Ionawr 27).

Ers hyny, mae mae mwy na 350 o bobol wedi ysgrifennu at eu gwleidyddion lleol yn galw am sicrhau bod gan garcharorion y Berwyn yr hawl i siarad a defnyddio’r Gymraeg.

“Rydan ni’n cael ein gwahanu yma,” meddai.

“Mae pobl yn cael rhybuddion IEP am siarad Cymraeg.

“Mae’n rhaid i bobl aros mis i gael llythyrau yn Gymraeg.

“Mae staff y carchar yn hiliol tuag at siaradwyr Cymraeg a phobpl groenddu.

“Maen nhw bob amser yn cwestiynu pam fy mod i’n siarad Cymraeg.

“Os ydw i’n siarad Cymraeg gyda rhywun maen nhw’n o gwmpas y lle fel piwiaid ac yn eich annog i beidio â siarad Cymraeg.

“Mae CEM Stoke Heath yn Swydd Amwythig yn fwy cartrefol i siaradwyr Cymraeg na CEM Berwyn.”

Cefndir

Fe ddaeth y sefyllfa i’r amlwg y llynedd ar ôl i adroddiad annibynnol ddod i’r casgliad fod siaradwyr Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.

Ers hynny, mae rhagor o adroddiadau bod siaradwyr Cymraeg yn y carchar wedi cael eu bygwth â sancsiynau gan wardeiniaid di-Gymraeg am siarad Cymraeg.

Maen nhw wedi colli’r hawl i gael cyfieithydd ar y pryd mewn gwrandawiadau disgyblu ac wedi colli eu swyddi yn y carchar am siarad Cymraeg.

Er gwaetha’r feirniadaeth yn yr adroddiad, a chan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan a Chomisiynydd y Gymraeg, mae’r pryderon am y sefyllfa’n parhau.

“Dylid nodi bod gwadu hawliau iaith ymhell o fod yr unig broblem yn Berwyn,” meddai llythyr yr ymgyrch.

“Cafodd y carchar ei agor yn 2017 ar sail model blaenllaw ar gyfer dull adfer newydd o garcharu.

“O fewn llai na dwy flynedd, fodd bynnag, cafodd y cyn-lywodraethwr Russ Trent ei ddiarddel, yn dilyn honiadau na chawson nhw mo’u datgelu, ac ers hynny mae sawl cyn-aelod o staff wedi cael eu herlyn a’u carcharu am eu hymddygiad yn y gwaith.

“Mae’r amodau wedi dirywio ymhellach ers i Trent gael ei ddisodli gan Nick Leader, ffigwr a ddaeth i’r amlwg yn 2011 o ganlyniad i fanipiwleiddio trosglwyddiadau carchar i osgoi craffu yn ystod arolygiadau – gan arwain at farwolaeth Christopher Wardally yn 2009.

“Ers penodi’r Arweinydd, mae Berwyn wedi gweld y cyfraddau twf uchaf o drais a hunan-niweidio yn ystâd carchardai Cymru.”

Mae Undod a PSN yn “mynnu bod bygythiadau, gwahanu a sancsiynau carcharorion Cymraeg eu hiaith yng ngharchar y Berwyn, ac ar draws holl ystad y carchardai, yn dod i ben”.

Maen nhw’n galw am:

    • derfyn ar fygythiadau a chosbi siaradwyr Cymraeg
    • diwedd ar ynysu a gwahanu siaradwyr Cymraeg
    • diwedd ar yr oedi o ran mynediad i lythyrau Cymraeg
    • mynediad i gyfryngau Cymraeg i siaradwyr Cymraeg

“Ar adeg pan fo carcharorion yn profi cyfyngiadau digynsail oherwydd pandemig COVID-19, gyda’r argyfwng iechyd meddwl yng ngharcharon hyd yn oed fwy nac arferol, mae cael eu hatal rhag cyfathrebu’n rhydd yn eu hiaith frodorol yn ffactor gwaethygol ychwanegol am garcharorion Cymraeg ac yn groes i’w hiawnderau dynol,” meddai llefarydd ar ran Undod.