Does dim lle yn y Blaid Geidwadol i’r rhai sy’n credu yn y Gymru sydd ohoni, yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

Mae’n dweud mewn erthygl yn y Sunday Times fod y blaid yn benderfynol o chwalu datganoli, ac “nad oes croeso bellach o fewn y Blaid Geidwadol i’r rhai sy’n credu yng Nghymru”.

Mae’r erthygl yn cyfeirio at sylwadau Boris Johnson, prif weinidog Prydain, pan ddywedodd fod datganoli’n “drychineb”, ac mae hefyd yn dweud bod ail-benodi Andrew RT Davies yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig “wedi rhoi hwb i gerrynt gwrth-ddatganoli yn rhengoedd y blaid Gymreig” a bod rhai o’i gefnogwyr “yn addo’n siriol y byddan nhw’n diddymu’r Senedd”.

Yn dilyn y newyddion na fydd Suzy Davies, sydd o blaid datganoli, yn sefyll yn etholiadau’r Senedd fis Mai, dywed Liz Saville Roberts fod y Ceidwadwyr bellach “yn blaid canoli yn San Steffan â’i llygaid ar chwalu gwreiddiau gwyrddion hunangynhaliaeth a hunanhyder yng Nghymru”.

Wrth edrych tua’r etholiad ar Fai 6, dywed fod gan y rhai fydd yn bwrw eu pleidlais ddewis rhwng “rheoli ein tynged neu fodloni ar adael i’r rhai sy’n ein bychanu ni ddewis ein dyfodol ar ein rhan”.

Plaid wrth-ddatganoli

“Mae safbwynt y prif weinidog ar ddatganoli wedi’i gofnodi’n helaeth,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae’n ei alw’n ‘drychineb’, gyda’i lygaid ar y wobr o gael rhedeg Cymru eto o dan reolaeth lwyr San Steffan.

“Mae adfer Andrew RT Davies yn arweinydd Cymreig y Torïaid ond wedi atgyfnerthu’r cerrynt gwrth-ddatganoli yn rhengoedd Cymreig y blaid, gyda rhai o’i brif gefnogwyr yn addo’n siriol y byddan nhw’n diddymu’r Senedd yn eu hanerchiad i aelodau’r blaid yn yr hystings dethol.

“Geiriau prif ymgynghorydd Mr RT Davies ac ymgeisydd Canol De Cymru, Chris Thorne, oedd ‘Mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol ar ddyfodol y Cynulliad [sic], byddwn i’n pleidleisio dros ddiddymu’r sefydliad’.

“Canlyniad etholiad o fewn y blaid oedd fod ymgeiswyr cymhedrol, o blaid datganoli fel yr Aelod presennol o’r Senedd, Suzy Davies, wedi cael eu gollwng yn ddi-urddas ar draul llu o grwpis Boris Johnson.

“Mae’r dyddiau pan y gallai’r Blaid Geidwadol honni’n ddilys eu bod nhw o blaid datganoli wedi hen fynd.

“Mae ymdrechion Torïaid fel Suzy Davies, Nick Bourne a David Melding i droi’r blaid yn rym o blaid datganoli ers 1999 wedi cael eu gollwng ers 2016.

“Mae’n glir nad oes bellach unrhyw groeso yn y Blaid Geidwadol i’r rhai sy’n credu yng Nghymru.

“Dyma blaid canoli yn San Steffan â’i llygad ar chwalu gwreiddiau gwyrddion hunangynhaliaeth a hunanhyder yng Nghymru.

“Mae ufudd-dod i blaid yn beth dwfn.

“Ond mae’r clymau rydym yn eu rhannu fel cenedl yn ddyfnach.

“Mae’r hanes, y diwylliant a’n cymunedau clos rydyn ni’n eu rhannu’n golygu bod Cymru wedi’i rhwymo’n dynn mewn ymdrech ar y cyd waeth bynnag a ydyn ni’n cytuno ar hyn o bryd ar orsaf derfynol ein tynged gyfansoddiadol.

“Wrth i ni agosáu at etholiad Mai, rhaid i’r rhai sy’n credu yng Nghymru ddewis a ydyn nhw am reoli’r dynged honno neu a ydyn ni’n fodlon gadael i’r rhai sy’n ein bychanu ni ddewis ein dyfodol ar ein rhan.”