Mae un o golofnwyr y Mail on Sunday yn awgrymu y byddai modd cynnwys y Ddraig Goch ar faner Jac yr Undeb pe bai’n cael ei hailddylunio wrth i natur yr Undeb newid.

Daw sylwadau Peter Hitchens mewn colofn sy’n disgrifio natur newidiol y berthynas rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig, wrth iddo ystyried y posibilrwydd y gallai’r Alban fynd yn annibynnol, rhywbeth mae’n dweud na all “weld ffordd o’i atal”.

“Felly dyna ni groes St. Andrew wedi mynd,” meddai.

“O leiaf y bydd hynny’n rhoi’r cyfle i ni gywiro drwg hanesyddol a chynnwys rhyw symbol o Gymru ar y faner genedlaethol, ar yr amod nad ydyn nhw hefyd yn datgan annibyniaeth hefyd.”

Deddfau Uno 1603

Mae’n cyfeirio at hen faner Lloegr oedd yn arfer cynnwys llew i gynrychioli Lloegr a draig i gynrychioli Cymru, ond mae’n cyfeirio at ddiwedd y faner honno adeg y Deddfau Uno yn 1603, oedd wedi uno Lloegr a’r Alban.

“Cafodd y Ddraig ei gollwng ar draul uncorn, pan gafodd coronau Lloegr a’r Alban eu huno yn 1603,” meddai.

“Yn fuan iawn, bydd rhaid i ni ailddylunio Jac yr Undeb.

“Alla i ddim gweld unrhyw ffordd o atal yr Alban rhag gadael yr Undeb, felly dyna ni groes St. Andrew wedi mynd.”

Angen symud gyda’r oes?

Wrth gyfeirio at natur newidiol yr Undeb, mae’n trafod y newidiadau a fu yn yr hen Iwgoslafia, yr Almaen cyn iddi uno a’r Undeb Sofietaidd yn chwalu.

“Efallai y dylem ddod i’r arfer â’r syniad ein bod ni am wynebu’r un peth,” meddai.

“Pan ddechreuodd Llywodraeth Blair ar eu chwyldro yn 1997, ro’n i’n meddwl bod rhyw obaith o achub y Deyrnas Unedig.

“Ond pan wnaeth y Blaid Dorïaid fabwysiadu Blairiaeth o dan David Cameron, fe wnaeth y gobeithion olaf o hynny bylu.

“Nid eu bod nhw’n gryf iawn erbyn hynny chwaith.

“Alla i ddim gweld ffordd y gall unrhyw un ei atal erbyn hyn.”

Cenedlaetholdeb

Mae’n dweud bod trigolion yr Alban “yn teimlo’n dda” am genedlaetholdeb ac nad oes modd i unrhyw un sydd o blaid Brexit – annibyniaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd – “wir ddadlau yn ei erbyn” – ond na ddylid gweithredu yn y modd mae Sbaen yn trin Catalwnia.

“Dw i’n ofni, yn groes i bob rhesymeg, pe bawn i’n Albanwr y byddwn i’n ei ffafrio am ei holl gyffro,” meddai.

“A nawr, dw i’n credu mai ein hunig obaith o ailuno’r Alban a Lloegr yw dweud: ‘Byddwn i’n drist o’ch gweld chi’n mynd, ac yn parhau i’ch ystyried yn ffrind ac yn gynghreiriad, yn agosach i ni ym mhob ffordd nag unrhyw un arall ar wyneb y Ddaear. Ond os oes rhaid i chi fynd, dylech wybod y bydd croeso bob amser i chi ddychwelyd os ydych chi’n newid eich meddwl’.

“Y peth diwethaf y dylem ei wneud yw ymddwyn fel mae Sbaen wedi ymddwyn tuag at Gatalwnia.

“Fydd grym llawdrwm ddim ond yn gwneud yr ysgariad yn waeth pan ddaw.

“Mae hi wir am fod yn anodd atal pleidlais arall, a ddylen ni ddim trio.”

Mae’n dweud na fyddai ceisio defnyddio dadleuon ynghylch cyllid, amddiffyn nac arian cyfredol “jyst ddim yn llwyddo” a hynny am fod “pobol ifanc yr Alban yn gyfarwydd â’r syniad”.

“Dydy nifer ddim yn rhannu safbwynt Lloegr o ran yr Undeb Ewropeaidd – dim syndod am fod cyfreithiau a gwleidyddiaeth yr Alban lawer yn nes at y model cyfandirol na’n rhai ni,” meddai wedyn.

“Pam gorchuddio’n hunain â chleisiau mewn ymdrech ofer i ddal ein gafael ar bobol mae’n well ganddyn nhw adael – am y tro, o leiaf?

“Llawer gwell aros ar y telerau gorau â nhw unwaith maen nhw’n mynd.”

Achub Lloegr

Mae’r golofn yn gorffen gyda sôn am “achub Lloegr, ein gwlad brydferth, rydd, lewyrchus”.

Mae’n cyfeirio at rinweddau ei “rhyddid unigryw”, ei llywodraeth “gyfyng”, ei llenyddiaeth, ei cherddoriaeth, ei phensaernïaeth a’i thirlun, ei dyfeisgarwch a’i dewrder – “y pethau a’n gwnaeth ni’n fawr yn y lle cyntaf”.

“Os trafferthwn ni i’w hachub nhw, [efallai y byddan nhw] yn ein cadw ni yn y dyfodol lle mae eraill yn methu.”