Mae Stephen Kinnock, Aelod Seneddol Llafur Aberafan, yn galw ar Lywodraeth Prydain i gynnal trafodaethau o’r newydd â’r Undeb Ewropeaidd o ganlyniad i gwotâu “niweidiol iawn” ar allforion dur y Deyrnas Unedig.
Mae’r BBC yn adrodd bod UK Steel, sy’n cynrychioli gwneuthurwyr dur, yn dweud ei bod yn debygol y bydd cynnyrch yn rhedeg allan yn ystod chwarter cynta’r flwyddyn, ac y byddai hynny’n golygu tariff o 25% ar allforion pellach.
Mae Stephen Kinnock yn cynrychioli’r ward sy’n gartref i weithfeydd dur Port Talbot.
“Mae Boris Johnson wedi dweud bod bargen Brexit yn golygu dim cwotâu a dim tariff – dydy hynny jyst ddim yn wir,” meddai wrth y Gorfforaeth.
“Bydd y diwydiant dur yn destun tariff o 25% ar bob tunnell o ddur rydyn ni’n ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd uwchben rhyw gwota arbennig.
“Yr hyn sy’n waeth yw y bydd dur sy’n mynd o Brydain i Ogledd Iwerddon yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo’r cwota hwnnw, felly mae gyda ni sefyllfa drafferthus iawn a allai gael effaith niweidiol iawn ar ein diwydiant dur.
“Mae angen i’r llywodraeth fynd yn ôl at y bwrdd i drafod gyda’r Undeb Ewropeaidd.”
Ymateb
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain yn dweud bod trafodaethau ynghylch cwotâu cynyddol ar y gweill.
“Rydyn ni wedi cydweithio’n llwyddiannus â Chomisiwn Ewrop i sicrhau cwotâu ar gyfradd tariff i rai cynnyrch dur i alluogi cwmnïau’r Deyrnas Unedig i fasnachu heb dariff yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.
“Daeth y dosraniadau di-dariff hynny yn weithredol ar Ionawr 1, 2021.
“Bydd y llywodraeth yn parhau i ymgysylltu’n ddwys â’r sector i ddeall eu pryderon a’u gofynion.”