Mae Donald Trump, cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, a’i gyfreithwyr wedi cefnu ar ei gilydd ar ôl iddyn nhw wrthod dadlau mai fe, ac nid yr Arlywydd Joe Biden, enillodd yr etholiad arlywyddol.

Roedd y criw o gyfreithwyr yn paratoi i’w gynrychioli yn ei achos uchelgyhuddo, wrth iddo wynebu cyhuddiadau bod ei ymddygiad a’i anfodlonrwydd i dderbyn y canlyniad wedi arwain at derfysgoedd treisgar a arweiniodd at rai yn meddiannu adeilad Capitol y llywodraeth.

Y rhai diweddaraf i adael ei dîm o gyfreithwyr yw Butch Bowers a Deborah Barbier.

Mae disgwyl i gyfreithwyr newydd gael eu penodi i’r tîm dros y dyddiau nesaf.

Mae disgwyl i’r achos uchelgyhuddo ddechrau ar Chwefror 8.

Mae Donald Trump a’r Gweriniaethwyr yn dweud bod eu dadl yn glir, sef fod yr achos llys yn anghyfansoddiadol oherwydd nad yw e bellach yn arlywydd.