Mae bachgen 13 oed mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar ôl cael ei drywanu a’i anafu’n ddifrifol gan bedwar dyn yn ardal Manceinion neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 30).

Cafodd yr heddlu eu galw i faes parcio Asda yn Longsight toc cyn 7.10yh.

Cafodd y pedwar dyn eu gweld yn cario cyllyll cyn iddyn nhw fynd at y bachgen ac ymosod arno cyn ffoi.

Yn ôl Heddlu Manceinion Fwyaf, roedd y digwyddiad yn un “syfrdanol” ac maen nhw’n dal i chwilio am y dynion.

Mae’r heddlu’n pwysleisio eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad ar sail camerâu cylch-cyfyng ac wrth chwilio’r ardal leol, tra bod mwy o blismyn yn yr ardal nag arfer i gynorthwyo’r cyhoedd.

Maen nhw’n apelio am dystion i’r digwyddiad.