Mae Liz Truss, Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol San Steffan, yn dweud ei bod yn “rhy gynnar” i ddweud pryd fydd brechlynnau coronafeirws yn cael eu hanfon dramor – ond mae hi wedi rhoi sicrwydd na fydd oedi wrth eu mewnforio o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywed fod angen sicrhau yn y lle cyntaf fod pawb yng ngwledydd Prydain sydd angen neu’n dymuno cael brechlyn yn gallu eu cael nhw cyn bod modd ystyried anfon brechlynnau i wledydd eraill.

Ond mae’n dweud y byddai’n niweidiol pe bai Prydain yn dod yn “ynys frechu” tra bod gwledydd eraill heb frechlynnau.

Mae gweinidogion San Steffan wedi cytuno i gynnal trafodaethau newydd â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl iddyn nhw osod rheoliadau ar allforio brechlynnau, a hynny wrth ymateb i ddiffyg cyflenwadau gan gwmni AstraZeneca Rhydychen.

Pfizer

Dywedodd Liz Truss wrth raglen Andrew Marr ar y BBC y gallai hi gynnig sicrwydd na fyddai oedi wrth fewnforio brechlynnau Pfizer o Wlad Belg.

“Mae’r prif weinidog wedi siarad â llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.

“Mae hi wedi rhoi sicrwydd iddo na fydd oedi yn y cytundebau sydd gennym ag unrhyw gynhyrchydd yn yr Undeb Ewropeaidd.”

Ond gyda’r dyfalu’n parhau y bydd gan Lywodraeth Prydain fwy o frechlynnau nag sydd eu hangen i frechu’r boblogaeth, fe fu cwestiynau ynghylch beth i’w wneud â’r brechlynnau sydd dros ben i helpu gwledydd eraill.

“Wrth gwrs, yn y lle cyntaf mae angen i ni sicrhau bod ein pobol ni’n cael eu brechu,” meddai Liz Truss wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Mae gyda ni darged i gael brechu’r rhai mwyaf bregus erbyn canol mis Chwefror.

“Mae hi ychydig yn rhy gynnar i ddweud sut fydden ni’n cyflwyno brechlyn ‘XX’ ond yn sicr, rydyn ni am gydweithio â ffrindiau a chymdogion, rydyn ni am gydweithio â gwledydd sy’n datblygu oherwydd dim ond pan fydd pawb yn y byd wedi’u brechu y byddwn ni’n datrys hyn.

“Rydyn ni hefyd yn cydweithio â gwledydd eraill o ran sut allwn ni helpu oherwydd fyddai hi ddim yn elwa pobol ym Mhrydain pe baen ni’n dod yn ynys frechu a bod nifer o wledydd eraill heb frechlyn, oherwydd bydd y feirws yn parhau i ledu.”

Ffiniau

Bu’n rhaid i Liz Truss amddiffyn polisi Llywodraeth Prydain o beidio â chau ffiniau er mwyn atal pobol rhag teithio i mewn ac allan, a’r effaith mae hynny wedi’i chael ar lefelau’r feirws.

“Rydyn ni wedi bod yn llym iawn o ran y ffiniau,” meddai.

“Ond allwch chi ddim selio ffiniau’r Deyrnas Unedig yn dynn [am resymau economaidd].”

Mae hi wedi gwrthod gwadu y gallai pobol orfod cadw pellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd am weddill y flwyddyn, a hynny ar ôl i ymchwil awgrymu mai dim ond wrth lacio cyfyngiadau’n raddol ochr yn ochr â brechu 85% yn effeithiol y bydd modd lleihau nifer y marwolaethau.

“Dw i ddim eisiau darogan beth fydd y sefyllfa yn yr hydref, dw i’n credu bod hynny’n rhy bell i ffwrdd,” meddai.