Mae Alister Jack, Ysgrifennydd yr Alban, wedi rhybuddio’r SNP nad oes modd iddyn nhw gynnal refferendwm annibyniaeth heb ganiatâd San Steffan.
Daw ei sylwadau ar ôl i’r SNP gyhoeddi cynllun gweithredu 11 pwynt yr wythnos ddiwethaf, yn nodi y bydden nhw’n cynnal ail refferendwm pe bai ganddyn nhw fwyafrif yn Holyrood yn dilyn etholiadau mis Mai – p’un a fyddai ganddyn nhw sêl bendith San Steffan neu beidio.
Gallai’r cynllun gweithredu hwn annog Llywodraeth Prydain i fynd â’r achos i’r llys.
“Rwy’n ofni bod y cyfansoddiad yn fater neilltuedig,” meddai Alister Jack.
“Byddai’n refferendwm anghyfreithlon, gadewch i ni fod yn glir am hynny.”
‘Unwaith mewn cenhedlaeth’
Mae Alister Jack wedi ategu’r safbwynt mai refferendwm “unwaith mewn cenhedlaeth” oedd hwnnw yn 2014, a gafodd ei golli gan y rhai o blaid annibyniaeth, gyda 55% o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.
Mae’n dweud nad oes modd cynnal un refferendwm ar ôl y llall (“neverendums”) hyd nes bod y rhai sydd o blaid yn ennill annibyniaeth.
Mae’n dweud nad oes modd ystyried y mater yng nghanol pandemig byd-eang a’r sefyllfa economaidd sy’n deillio o’r feirws.
Taith Boris Johnson i’r Alban
Daw sylwadau Alister Jack ddyddiau’n unig ar ôl i’r prif weinidog Boris Johnson deithio i’r Alban i hybu’r Undeb.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Alban fod ei daith “yn angenrheidiol” a’i fod wedi “codi ysbryd”.
Yn y cyfamser, mae’n dweud na ddylai Llywodraeth yr Alban gyhoeddi data yngylch cyflenwadau’r brechlyn coronafeirws.
Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi’u ceryddu gan Lywodraeth Prydain am gyhoeddi’r ffigurau, gan honni bod y cyhoeddiad yn fasnachol sensitif, ond maen nhw wedi addo cyhoeddi ffigurau’r gorffennol hefyd, gan gynnwys sawl dos oedd wedi’u haddo a sawl un gafodd eu rhoi.