Fe fu’n rhaid dirwyn rhaglen radio BBC yr Alban i ben yn gynnar fore heddiw (dydd Sul, Ionawr 31) yn dilyn tân yn yr adeilad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 11.26yb wrth i fwg ddod o do’r adeilad yn Glasgow.

Bu’n rhaid symud staff y Gorfforaeth o’r safle.

Roedd y rhaglen Off the Ball yn cael ei darlledu’n fyw adeg y tân, ac fe fu’n rhaid chwarae rhaglen arall oedd wedi’i recordio ymlaen llaw pan adawodd staff yr adeilad.