Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am eira mewn 13 o siroedd Cymru tan 6 o’r gloch heno (nos Sul, Ionawr 31).

Maen nhw’n dweud y gallai hyd at ddwy fodfedd (5cm) o eira gwympo ar dir uchel yn siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Caerfyrddin, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Merthyr Tudful, Mynwy, Penfro, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Bu’n rhaid cau dwy ganolfan frechu coronafeirws yn Rhondda Cynon Taf ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 30) ond mae’r rheiny wedi agor eto heddiw.

Ac roedd Heddlu’r Gogledd yn rhybuddio am amodau gyrru gwael yn siroedd Dinbych a’r Fflint ddoe.

Bydd y rhybudd am eira’n para tan 6 o’r gloch heno.

Mae ail rybudd am eira a rhew yn y gogledd, Ceredigion a Phowys ar gyer dydd Mawrth (Chwefror 2).

Yr eira yng Nghymru

Mae pobol wedi bod yn trydar lluniau a fideos ar y cyfryngau cymdeithasol o bob cwr o Gymru