Mae aelodau o dîm y wasg Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi bod yn egluro’r sefyllfa arweiniodd at wrthod yr hawl iddyn nhw sylwebu ar eu gêm ar gyfer gwefan y clwb yn King’s Lynn ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 30).

Cyhoeddodd y clwb cyn y gêm na fyddai sylwebaeth ar y gêm yn Norfolk am nad oedden nhw wedi cael caniatâd i wneud hynny – ond mae rhagor o fanylion wedi cael eu datgelu gan Mark Griffiths, aelod o dîm y wasg, mewn fideo ar YouTube.

Ac mae Colin Henrys, aelod arall o’r tîm, wedi cynnig eglurhad ar Twitter.

Mae lle i gredu bod tri aelod o dîm y wasg wedi teithio o Wrecsam i Norfolk ar gyfer y gêm, ond fod Clwb Pêl-droed King’s Lynn wedi eu ffonio cyn iddyn nhw gyrraedd y cae a rhoi gwybod na fydden nhw’n cael sylwebu ar y gêm i’r wefan.

Beth ddigwyddodd?

Mewn cyfres o negeseuon ar Twitter, mae Colin Henrys, oedd wedi teithio i King’s Lynn, yn egluro beth ddigwyddodd wrth gyrraedd y cae.

“Adre’n ôl ar ôl diwrnod hir a rhyfedd yn rhoi sylw i @Wrexham_AFC yn King’s Lynn,” meddai.

“Wedi cael ein ceisiadau i’r wasg, oedd yn dweud yn glir y bydden ni’n sylwebu, wedi’u derbyn ddydd Iau.

“Ran fwya’r ffordd yno pan ffoniodd eu hysgrifennydd i ddweud bod y cadeirydd wedi newid ei feddwl.

“Ar ôl dros awr yn aros tu allan (doedden ni ddim yn gallu mynd i mewn, atalnod llawn, er gwaetha’r ffaith fod yr un rhestr y wasg yn rhestru ein swyddi eraill yn nhîm y wasg), mae’n dod i lawr i ddweud wrthon ni ei fod o’n anhapus ein bod ni wedi hyrwyddo ein sylwebaeth fel un rhad ac am ddim. A dyna roedd o am fod.

“Mae o wedi bod yn rhad ac am ddim drwy gydol y tymor. *GARTREF* ac oddi cartref.

“Nid pawb sydd isio ffrydio gêm, ac mae ein cefnogaeth wych yn golygu ein bod ni’n dal i ychwanegu 00au i niferoedd ffrydio pobol beth bynnag.

“Roedd Chesterfield yr un fath yr wythnos ddiwetha’ ac allen nhw ddim bod wedi bod yn fwy croesawgar.

“Fe gawson ni lawer o bobol yn gwrando arnon ni yn Chesterfield, ac fe gawson nhw lawer o ffans Wrecsam yn gwylio’r ffrwd fel y gwnaethon nhw eu hunain gadarnhau ar yr awyr.

“Mae hi’r un fath ar gyfer ein holl gemau cartref hefyd. Mae nifer o bobol hyd yn oed yn ffrydio ac yn gwrando ar ein sylwebaeth dros ei ben o.

“Fe wnaeth o benderfynu wedyn ein gadael ni i mewn, ar yr amod na fyddai sylwebaeth, ac fe wnaeth yn glir y byddai pobol yn gwrando er mwyn sicrhau ein bod ni’n cydymffurfio – felly fe wnaethon ni roi’r gorau i’n cynllun o gael sylwebaeth gartref hefyd.

“Dydyn ni ddim yn trin timau fel hyn ar y Cae Ras.

“Rydyn ni wedi croesawu timau’r wasg y gwrthwynebwyr drwy gydol y tymor ac fe wnawn ni barhau i wneud popeth fedrwn ni i wneud hynny oherwydd mai dyna’r peth cywir i’w wneud.

“Ar adegau fel hyn, pan na chaiff pobol fynd i gaeau pêl-droed, mae gallu rhannu’r gêm efo *cynifer o bobol â phosib*yn bwysig dros ben.

“Felly ydw, Mr. Cleeve, dw i wrth fy modd ein bod ni wedi’ch curo chi heddiw a byddaf yn dathlu yn y modd priodol. Gwnewch yn well.

“Diolch i holl gefnogwyr Wrecsam am eich cefnogaeth barhaus. Rydyn ni’n caru medru gwneud beth ydyn ni’n ei wneud i chi.”

Beirniadaeth

Yn ogystal â beirniadu’r perchennog Stephen Cleeve, mae Mark Griffiths hefyd yn cyhuddo’r Gynghrair Genedlaethol o fod yn “amaturaidd” gan nad oes ganddyn nhw reolau yn eu lle i warchod rhag sefyllfaoedd o’r fath.

“Mae’n destun embaras ac yn arwydd arall fod angen i ni adael y gynghrair chwerthinllyd hon a mynd i mewn i gynghrair go iawn sy’n rhedeg ei hun.

“Dwi ddim yn lladd ar y clybiau, y cefnogwyr, y bobol sy’n gweithio’n galed, y gwirfoddolwyr sy’n bwrw iddi ar y lefel yma; nhw yw’r bobol sy’n gwneud pêl-droed yn arbennig.

“Mae’r sefydliad ei hun [y Gynghrair Genedlaethol], y rhai mae’n eu gadael i redeg yn rhydd dros bob man, yn embaras hollol a dw i wir yn gobeithio y gallwn ni ei gadael yn hwyr neu’n hwyrach.

“Mae pawb yn gwybod ein bod ni’n sylwebu ar bob gêm yn fyw.

“Doedd neb yn sylwebu ar gemau oddi cartref cyn i fi ddechrau gwneud yn ystod tymor 2001-02, a dwi wedi bod yn sylwebu ar bob gêm oddi cartref yn ystod y 19 mlynedd diwethaf neu dw i’n gwybod fod rhywun arall wedi gwneud.

“Felly dydy hi ddim yn gyfrinach fod Wrecsam yn sylwebu ar gemau oddi cartref, ac fe wnaeth Steve Cleeve aros tan bod ein sylwebyddion bron iawn yn y cae cyn dweud wrthyn nhw eu bod nhw’n gwastraffu eu hamser.

“Mae hyn yn mynd ymhellach.

“Yn amlwg roedden nhw wedi’u ffieiddio – a dw i am wneud un peth yn glir iawn yma – dw i ddim mewn unrhyw ffordd yn beirniadu Clwb Pêl-droed King’s Lynn oherwydd dwi wedi bod mewn cysylltiad cyson â’u tîm y wasg ac roedd eu swyddogion wedi cael embaras.

“Roedd swyddogion yn teimlo embaras o orfod gorfodi hyn ac roedden nhw’n gwybod beth oedd yn digwydd, gall pawb weld beth oedd yn digwydd.”

Yn dilyn beirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Steve Cleeve wedi bod yn ffraeo â nifer o unigolion.

Ymateb Stephen Cleeve

Pan wnaeth golwg360 ofyn i Stephen Cleeve am ei ymateb, dywedodd: “Dw i wedi’i wneud e dair gwaith, felly dyma’r pedwerydd.”

“DYDY nifer o glybiau’r Gynghrair Genedlaethol DDIM yn caniatáu sylwebu gan y dylai’r clwb cartrefu allu cadw’r arian ffrydio fel maen nhw’n ei wneud gydag arian o’r giât mewn byd heb Covid,” meddai wedyn.

“Yn wir, dydy rhai clybiau ddim yn caniatáu i newyddiadurwyr fynd i mewn o gwbl, [ond] fe wnes i adael sawl un i mewn o Wrecsam, gan gynnwys criw teledu pedwar dyn oedd yn ffilmio’r ddogfen.

“Ro’n i’n hapus ar y dechrau i adael sylwebyddion Clwb Pêl-droed Wrecsam i mewn, fodd bynnag cyn y gêm fe wnaeth y clwb ei hun (sydd hefyd wedi fy atal i o’r cyfrif Twitter fel nad oeddwn i’n gallu trafod â nhw’n uniongyrchol) drydar am wrando ar eu sylwebaeth gan ei bod yn RHAD AC AM DDIM – yr hyn oedd i’w gymryd a heb ei ddweud oedd peidio â ffrydio gyda ninnau.

“Roedd hyn hefyd ochr yn ochr ag ymgyrch gan gefnogwyr Wrecsam i foicotio pob ffrwd oddi cartref o hyn ymlaen gan na fydden nhw’n cael arian gan Sport England.

“Mae’r pwynt olaf yn ddiddorol gan nad yw arian yn cael ei roi i bawb, dim ond y clybiau hynny sy’n methu fforddio parhau, a fyddai ychydig iawn o obaith gan Wrecsam o ystyried cyfoeth y perchnogion newydd ac o ystyried y ffaith na fydd unrhyw arian yn cael ei dalu tan ddiwedd mis Chwefror.”

Mae’r datganiad yn mynd yn ei flaen i feirniadu’r cefnogwyr.

“O ystyried y casineb a’r sarhad dw i’n eu derbyn ac yn parhau i’w derbyn gan gefnogwyr Wrecsam, fe wnes i benderfynu peidio â chaniatáu unrhyw sylwebaeth ar y gêm, a bydd hyn hefyd yn ei le ar gyfer clybiau fydd yn ymweld â The Walks yn y dyfodol.

“Roedd yna oedi o 40 munud gan fy mod i mewn cyfarfod tan fy mod yn gallu egluro hyn wrth y sylwebyddion, a phan wnes i egluro’r ffeithiau am oddeutu 1.45yh, fe wnaethon nhw ymbellháu oddi wrth yr WST [Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam] gan gytuno bod y mwyafrif o gefnogwyr Wrecsam yn ymddwyn yn wael.

“Fe gawson nhw [y sylwebyddion] fynediad i’r stadiwm ar yr amod na fyddai unrhyw ffrydio ond fe gawson nhw’r hawl i ymgymryd yn llawn â gweithgareddau’r cyfryngau wedi’r gêm.

“Pe na bai Wrecsam wedi canolbwyntio ar hyrwyddo’u cynnig rhad ac am ddim dros y clybiau, fe fydden nhw wedi cael dod i mewn, felly wnaethon nhw achosi hyn iddyn nhw eu hunain.

“Dydyn ni, fel clwb, ddim yn cymryd unrhyw sylwebyddion i gemau oddi cartref gan ein bod yn teimlo ei bod yn anghywir gwneud hynny ac yn lleihau potensial y clwb cartref i ennill arian.

“Ers hyn, mae fy mab chwech oed wedi cael ei sarhau ac wedi dioddef cannoedd o achosion o sarhad gan gefnogwyr Wrecsam ar Twitter, yn amlwg dydy hyn ddim yn dderbyniol mewn unrhyw ffordd, [ac] mae peth o’r sarhad wedi dod gan y rhai oedd ynghlwm wrth yr WST ac aelodau’r WST.”

Buddugoliaethau i Abertawe a Wrecsam, pwynt i Gaerdydd ond Casnewydd yn colli

Canlyniadau cymysg i glybiau Cymru yng ngynghreiriau Lloegr

 

Wrecsam yn teithio i King’s Lynn ar ddiwedd mis o ganlyniadau anghyson

Ennill un, colli un ac un gêm gyfartal i dîm Dean Keates eleni