Mae tîm pêl-droed Wrecsam yn teithio i King’s Lynn heddiw ar ddiwedd mis o ganlyniadau anghyson yn y Gynghrair Genedlaethol.

Mae tîm Dean Keates wedi ennill un gêm, wedi colli un ac wedi cael un gêm gyfartal ers dechrau’r flwyddyn – union yr un record â’u gwrthwynebwyr.

Mae’n debygol o fod yn frwydr galed rhwng yr ymosodwr Michael Gash, sydd wedi chwarae dros 400 o gemau yn ystod ei yrfa ac wedi chwarae i King’s Lynn ers 2017, a Theo Vassell.

Bydd yn rhaid i’r amddiffynnwr Vassell fod ar ei orau i atal yr ymosodwr.

Dyma’r gêm gyntaf erioed rhwng y ddau dîm, a seithfed gêm Wrecsam yn ardal Dwyrain Anglia – fe wnaethon nhw guro Great Yarmouth yn 1952 ac maen nhw ond wedi curo Norwich unwaith, yn y gwpan yn 1970 wrth i Eddie May ac Arfon Griffiths rwydo mewn buddugoliaeth o 2-1.

Pe bai Adi Yussuf yn chwarae, hon fyddai ei 250fed gêm erioed.