Dydy tîm pêl-droed Casnewydd ddim yn poeni am eu canlyniadau diweddar, wrth iddyn nhw deithio i Harrogate ar ôl saith gêm heb fuddugoliaeth.

Dydyn nhw ddim wedi ennill ers iddyn nhw guro Grimsby ar Ragfyr 8, ac wedi ennill dim ond pedwar pwynt yn ystod y cyfnod ers hynny.

Mae tair gêm hefyd wedi’u gohirio ers hynny, ond maen nhw’n dal i frwydro am ddyrchafiad ar frig yr Ail Adran.

“Rydyn ni wedi bod ymhlith y tri uchaf,” meddai’r is-reolwr Wayne Hatswell.

“Dim ond wrth i gemau gael eu gohirio rydyn ni wedi cwympo i lawr y gynghrair rywfaint.

“Os enillwn ni ein gêm wrth gefn, byddwn ni’n codi i’r brig a bydd y gemau wrth gefn gartref lle’r ydyn ni’n anodd i’n curo, tra ein bod ni wedi casglu mwy o bwyntiau oddi cartref na’r llynedd.”

Canmol Harrogate

Roedd Casnewydd yn fuddugol o 2-1 yn erbyn Harrogate yn Rodney Parade ym mis Hydref.

Ond daeth eu gôl fuddugol yn hwyr yn y gêm ar ôl iddyn nhw orfod brwydro’n galed am y triphwynt.

“Maen nhw’n [dîm sy’n] nodweddiadol o’r 4-4-2 ac yn eitha’ catrodol yn yr hyn maen nhw’n ei wneud,” meddai’r is-reolwr.

“Ond mae ganddyn nhw chwaraewyr sy’n gweithio’n galed.

“Mae Simon [Weaver, y rheolwr] wedi gwneud gwaith gwych yno.

“Bydd e’n sicrhau bod ei chwaraewyr yn canolbwyntio ar y gêm sydd i ddod ac yn ceisio taro’n ôl.

“Rhaid i ni ddod yn ôl i Gasnewydd â rhywbeth.”