Mae tîm pêl-droed Caerdydd yn croesawu Millwall i brifddinas Cymru ar gyfer gêm gartref gynta’r rheolwr Mick McCarthy wrth y llyw heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 30).

Daw’r gêm yn erbyn y tîm y dechreuodd y Gwyddel ei yrfa’n rheolwr arnyn nhw – a hynny ar ôl wynebu tîm tref ei febyd yn ei gêm gyntaf oddi cartref ganol yr wythnos – ac mae’n gobeithio am gêm danllyd gan fod y rheiny, meddai, yn “fwy cyffrous”.

“Mae Millwall fel clwb yn un sy’n agos iawn at fy nghalon,” meddai yr wythnos hon.

“Os nad ydw i’n chwarae yn eu herbyn nhw, dw i eisiau iddyn nhw wneud yn dda, ond os ydw i’n chwarae yn eu herbyn nhw, yn amlwg dw i eisiau ennill.

“Maen nhw’n anodd i’w curo. Dydyn nhw ddim wedi cael eu curo’n aml iawn.

“Ond dw i jyst eisiau ennill gemau, pwy bynnag maen nhw yn eu herbyn.”

Y gwrthwynebwyr

Ar ôl cyrraedd y pedwerydd safle yn y Bencampwriaeth, mae Millwall wedi llithro i lawr y tabl ac maen nhw bellach yn unfed ar bymtheg ar ôl ennill 30 o bwyntiau mewn 25 o gemau.

Mae’r Adar Gleision un safle uwchben eu gwrthwynebwyr, ond mae ganddyn nhw wahaniaeth goliau gwell.

Dim ond dwy fuddugoliaeth gafodd Millwall yn eu 17 gêm ddiwethaf yn y gynghrair, ac fe ddaethon nhw â rhediad o ddeg gêm heb fuddugoliaeth i ben ar Ragfyr 15 wrth guro Bristol City.

Roedden nhw heb fuddugoliaeth mewn pedair gêm wedyn, cyn curo Huddersfield ar Ionawr 20, ac fe gawson nhw gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Watford ganol yr wythnos.

Bydd yr Adar Gleision yn wynebu dau o’u cyn-chwaraewyr – Kenneth Zohore, sydd newydd ymestyn ei gytundeb i aros ar fenthyg yn Llundain o West Brom, a Scott Malone, yr asgellwr oedd wedi chwarae i dîm prifddinas Cymru 56 o weithiau.

Un arall fydd yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru yw Danny McNamara, y cefnwr de oedd wedi treulio tymor 2019-20 a dechrau’r tymor canlynol ar fenthyg gyda Chasnewydd.