Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud y bydd ei dîm yn “barod i frwydro” wrth iddyn nhw deithio i herio Rotherham yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 30).
Mae’r tîm yn Ne Swydd Efrog yn safleoedd y gwymp, tra bo’r Elyrch yn ddi-guro ers wyth gêm – dydyn nhw ddim wedi colli ers Rhagfyr 16, pan gawson nhw eu curo o 2-0 oddi cartref yn Derby.
Tra bod Rotherham yn safleoedd y gwymp, mae ganddyn nhw ddwy gêm wrth gefn o gymharu â’r timau o’u cwmpas yn y gynghrair.
Maen nhw wedi ennill tair a chael un gêm gyfartal yn eu chwe gêm ddiwethaf, gan gynnwys buddugoliaeth ysgubol o 3-0 ym Middlesbrough ganol yr wythnos.
Tymor di-drugaredd
Daw gêm ddiweddara’r Elyrch dridiau’n unig ar ôl iddyn nhw frwydro’n galed am gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Brentford yn Stadiwm Liberty nos Fercher (Ionawr 27) ar ôl cerdyn coch Kyle Naughton a bod ar ei hôl hi ar ôl 74 munud.
Yn ychwanegol at hynny, maen nhw’n teithio 221 o filltiroedd ar gyfer y gêm yn y Stadiwm AESSEAL New York.
Serch hynny, mae Steve Cooper yn dweud bod ei dîm yn barod amdani.
“Mae’n her gwbl wahanol i ni yr wythnos hon, ac maen nhw [Rotherham] gwneud yn dda ac wedi cael canlyniad da iawn yn erbyn Middlesbrough ganol yr wythnos,” meddai.
“Felly bydd hi’n gêm anodd, ond dydy hynny ddim yn syndod yn y gynghrair hon.
“Fe wnaethon ni chwarae nos Fercher a dydy Rotherham, yn amlwg, ddim jyst rownd y gornel o Abertawe.
“Ond fe wnawn ni fwrw iddi a pharatoi, does dim amheuaeth ei bod hi’n briodol ei galw hi’n gêm anodd.
“Rhaid i ni fod yn barod amdani.
“Mae gyda fi barch enfawr iddyn nhw a sut maen nhw’n mynd ati gyda’u gwaith.
“Ond, fel dw i’n dweud, rhaid i ni ganolbwyntio arnom ni ein hunain.
“Bydd yna achos yn y fantol i bob tîm ym mhob gêm sy’n weddill y tymor hwn.
“Rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n barod i frwydro dros ein hachos ni.”
Tîm yr Elyrch
Mae Kyle Naughton wedi’i wahardd yn dilyn y cerdyn coch ganol yr wythnos, tra bod amheuon am ffitrwydd Wayne Routledge (croth y goes) a Liam Cullen (ffêr) yn dilyn y gêm gwpan yn erbyn Nottingham Forest.
Mae gan Korey Smith anaf i’r cyhyr pedryben (quad), ac mae Steven Benda, Brandon Cooper a Tivonge Rushesha yn dal ar y cyrion wrth barhau i wella o anafiadau hirdymor.