Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd Nigel Owens yn rhan o dîm Y Clwb Rygbi Rhyngwladol ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Daw hyn ar ôl iddo benderfynu rhoi’r gorau i ddyfarnu ar y lefel ryngwladol.

Bydd dyfarnwr ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd 2015 yn rhannu ei safbwynt ar berfformiadau Cymru gyda gwylwyr S4C drwy gydol y gystadleuaeth.

Dywedodd Nigel Owens: “Bydd e’n deimlad rhyfedd i beidio bod ar y cae yn y Chwe Gwlad eleni, ond rwy’n edrych ‘mlaen i gymryd fy lle ar yr ystlys fel aelod o dîm Clwb Rygbi.”

Mae Nigel yn ymuno â’r cyflwynydd Gareth Rhys Owen, gohebydd Catrin Heledd, a sawl un sydd wedi gwisgo’r crys coch dros y blynyddoedd, gan gynnwys Jamie Roberts, Rhys Patchell, Lloyd Williams, Sioned Harries, Nathan Brew, Andrew Coombs a Nicky Robinson.

Bydd cyn-gapteiniaid Cymru, Gwyn Jones a Jonathan Davies, yn ymuno â Cennydd Davies yn y blwch sylwebu yn ystod y bencampwriaeth.

Y gemau i gyd ar S4C

S4C yw’r unig ddarlledwr i ddangos pob un o gemau Chwe Gwlad Cymru yn fyw eleni, gan gychwyn gyda’r gêm agoriadol yn erbyn Iwerddon yn y Stadiwm Principality, am 2.15 ar brynhawn dydd Sul (Chwefror 7).

“Mi fydd y Chwe Gwlad eleni yn wahanol iawn i unrhyw un arall ac mi fydd Caerdydd yn le gwahanol iawn ar benwythnos gêm fawr,” meddai Gareth Rhys Owen.

“Ar ôl Hydref eithaf sigledig i Gymru, mi fydd y chwaraewyr a’r hyfforddwyr yn benderfynol o wella ar eu perfformiadau diweddar a cheisio cystadlu am y Bencampwriaeth.

“Gêm gartref yn erbyn Iwerddon yw’r her gyntaf, ac yn debyg i Gymru, mae’r Gwyddelod yn mynd trwy gyfnod o newid, felly mae yna lot yn y fantol i’r ddau dîm.”