Mae trefnwyr gŵyl ffilmiau wedi lansio project sy’n rhoi’r cyfle i grwpiau cymunedol greu ffilmiau am bobol hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol Cymru.

Bu Gŵyl Ffilm Iris yn llwyddiannus gyda chais am £195,330 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, er mwyn ariannu’r project.

Gan weithio gyda’r gymuned LGBT+ a’u cynghreiriaid, mae’r tîm yn chwilio am 10 grŵp cymunedol i gynhyrchu ffilmiau sy’n mynd i’r afael â materion sy’n wynebu’r gymuned LGBT+.

Nid oes angen i’r grwpiau dan sylw weithio yn y gymuned LGBT+, ond byddant yn amrywiol yn eu haelodaeth.

Bydd pob un o’r ffilmiau gorffenedig ar gael i’w gwylio ar-lein.

“Cyfle gwych”

“Heb yr arian hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ni fyddem yn gallu cynnal y prosiect hwn,” meddai Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl.

“Rydyn ni wedi cael ein boddi gan grwpiau cymunedol ledled Cymru yn gofyn a allen ni weithio gyda nhw, a heddiw gallwn ni gadarnhau, gyda gallwn mawr iawn.

“Mae hwn yn gyfle gwych i’n grwpiau cymunedol ystyried a myfyrio ar ble rydyn ni heddiw fel pobl LGBT+.

“Mae’r ffaith y bydd gennym 10 ffilm wedi’u cynhyrchu ar ddiwedd y prosiect hwn yn fonws ychwanegol.

“Mae ffilm yn parhau i fod yn ffordd ddemocrataidd iawn i bobl rannu eu syniadau a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

“Rwy’n sicr y bydd ein grwpiau cymunedol yn elwa o’r profiad anhygoel hwn.”

Mae prosiectau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr”

Ychwanegodd Derek Preston-Hughes, Rheolwr Cyllid, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi Gwobr Iris gyda’r prosiect hwn.

“Maen nhw eisoes wedi chwarae rhan anhygoel wrth fynd i’r afael â materion a wynebodd y gymuned LGBT+ dros y blynyddoedd, ac mae’n wych eu bod bellach yn gallu adeiladu ar hyn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

“Mae prosiectau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl ac i gymunedau ledled Cymru.”