Yn actio ers 40 o flynyddoedd, mae’r Cofi wedi rhoi’r gorau i bortreadu ‘Wyn’ yn Rownd a Rownd. Ond fydd yna ddim ymddeol i’r actor 61 oed sy’ wedi serennu yn Pobol y Cwm, C’Mon Midffîld, ac mewn sawl sioe lwyfan…

Sut un oedd ‘Wyn’? 

Roedd ei straeon i gyd i wneud efo’i bres o. Roedd ganddo lot o bres, local boy made good.

Ac wrth gwrs roedd hynny yn denu merched, felly roedd yna lot o fodins o gwmpas, a rhei gwahanol pob cyfres – doedd o ddim yn dal arni o gwbl.

Roedd o ychydig bach fel Boris Johnson… roedd ganddo fo lot o blant.

Achos bod Wyn yn filiwnydd, roeddwn i’n cael byw’r bywyd yna weithiau. Cael tŷ posh fel lleoliad, neu ffilmio yn Sbaen, ryw hanner awr o Barcelona…

Fy niwrnod cynta’ fi yn y gwaith, Medi 2006, oedd mynd i Manceinion i’r maes awyr, i fynd i Sbaen am wsos!

Sut deimlad oedd ffarwelio gyda ‘Wyn’?

Dim teimlad o gwbl, achos dw i wedi hen arfer gorffen cyfres, cael fy lladd mewn cyfres, mynd i ffwrdd mewn cyfres…

Dw i wedi bod mewn gymaint o gyfresi, ac mae o jesd yn rhan o’r job, ac yn rhywbeth dw i wedi’i dderbyn ers fy nyddiau cynnar.

Dw i’n gwybod fy mod i’n swnio fel fy mod i’n chwarae’r peth i lawr, ond fel mae’r ferch yn dweud: ‘Fel yna’r wyt ti. Deadpan efo bob dim!’

Be’ nesa’?

Fyswn i’n licio cyfarwyddo eto, ac ella sgrifennu drama.

Wnes i sgwennu drama Theatr Breuddwydion flynyddoedd yn ôl, am gefnogwyr Man U, a mwynhau’r profiad yna.

Sut wnaethoch chi ddechrau actio?

Roeddan ni’n gwneud dramâu ysgol reit dda yn Ysgol Syr Hugh [Owen, Caernarfon] ac roedd yr athro yn mynd a ni i theatrau yn Lerpwl, ac yn gwneud ei ddramâu reit cwyrci ei hun wedyn.

Felly roedd o’n agoriad llygad…

A rhoddodd hynny’r ysgogiad i fi fynd i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd.

Beth fu’r gwaith mwya’ cofiadwy?  

Y rhai dw i wedi fwynhau fwya’ oedd pan fuo ni’n gwneud ffilmiau fel Nel gan Meical Povey. Wnaeth honna ennill BAFTA [yn 1991].

Roedden ni yn ffilmio ar leoliad am tua tri, bedwar mis. Hunanynysu go-iawn!

Roeddat ti yn medru ymgolli yn y gwaith, a siarad Drama drwy’r amser!

Oes yna berfformwyr eraill yn y teulu?

Gan fy mod i wedi cael fy mabwysiadu, mae yna actio yn y teulu [gwaed, sy’n hanu o Lancashire].

Roedd fy nghefnder [gwaed] Dereck Ware yn actor a sdyntman, a fo ydy ‘Rozzer’ yn y [car] mini yn The Italian Job.

Fo wnaeth y sdynts i gyd i’r ffilm yna. Roedd o hefyd yn Dr Who a Z Cars.

Beth yw eich atgof cynta’?

Diwrnod cyntaf yn ysgol hogiau Twtil. Fy nghneithar yn fy nanfon i yno.

Beth yw eich ofn mwya’?

Dw i wedi dysgu peidio bod ofn dim byd, ers stalwm.

Fydda i’n bryderus weithiau, ond sdim eisiau bod ofn!

Ers pryd ydach chi’n dyfarnu gemau rygbi?

Ar ôl gorffen chwarae fues i’n hyfforddi youths am ryw ddeng mlynedd, ac wedyn es i ar gyrsiau reffio.

Ffrind yn dweud: ‘Fedri di’m stopio rŵan, rhaid chdi gario ymlaen’.

A dw i wrthi ers rhyw wyth mlynedd, yn cychwyn efo’r juniors am ddwy, dair blynedd, cyn gwneud y seniors yng ngogledd Cymru.

Rydw i’n mwynhau bod yn rhan o’r gêm.

Ydach chi’n cytuno bod mwy o barch i ddyfarnwr rygbi na reffs pêl-droed?  

Dw i’n gallu gweld y gwahaniaeth.

Mae mab y wraig yn chwarae i Blackpool – Jordan Williams – ac rydan ni’n mynd i’w weld o, ac mae’r reffs ffwtbol yn cael amser caled.

Ond dw i’n ffeindio, mwy a mwy rŵan, bod chwaraewyr rygbi yn cwestiynu lot mwy.

Ac weithiau mae’n rhaid rhoi bys ar wefusau a dweud: ‘Hisht! Dyna ddigon rŵan’.

Pwy yw eich hoff chwaraewr rygbi?

Gareth Edwards.

Dyn hyfryd, diymhongar, a chwaraewr oedd efo bob dim – cyflym, gallu taclo, cicio’r bêl yn dda.

Pan oeddwn i’n gweithio ar Pobol y Cwm, roeddwn i’n mynd gyda Huw Ceredig i weld Bridgend yn chwarae, ganol wsos, a gweld Gareth Edwards yna, a JJ Williams a Steve Fenwick, sêr Cymru a’r Llewod.

Ac roeddech chi’n mynd fewn i’r hospitality bar, a chyfarfod rhein, fy arwyr i. Arwyr pawb!

Ond roeddan nhw eisiau ysgwyd llaw fi, am bo fi ar Pobol y Cwm!

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Cerdded lot.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Al Pacino a bwyd Eidalaidd.

Dw i yn licio BOB UN ffilm mae o wedi’i wneud, a wnes i hyd yn oed fynd i’w weld o yn Llundain. Roedd o’n gwneud American Buffalo ar lwyfan.

A wnes i weld o’n gwneud Shakespeare yn Efrog Newydd.

Roedd ei bresenoldeb o’n anferthol ar lwyfan.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Alison y wraig.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Iawn ia.

Beth yw eich hoff wisg ffansi? 

Dw i erioed wedi gwisgo gwisg ffansi. Bah humbug!

Styfnigrwydd llwyr ydy o, dw i’n weld o’n stiwpid o beth.

Beth yw’r gwyliau gorau i chi fwynhau?

Positano ar yr Amalfi Coast yn yr Eidal.

Y golygfeydd, y bwyd, yr ambiance!

Beth yw eich hoff ddiod feddwol? 

Gwin coch.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?  

Yn y cyfnod clo dw i wedi bod yn darllen llyfr Michael Wolff am Donald Trump.

Rydach chi’n clywed y snipets yma ac yn meddwl: ‘Na! Fedar o ddim bod mor blentynnaidd â hogyn bach chwech oed’.

Ond ydy, mae o!

A’r straeon am sut mae o’n trin ei staff, instant sack am y peth lleiaf.

A dw i hanner ffordd drwy lyfr Carwyn Jones, ac mae o reit ddifyr. Easy read.

Dw i heb gyrraedd nitty gritty y gwleidydda eto, ond mae ei gefndir o ddigon difyr.

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

O dan yr holl bravado, dw i’n swil iawn.

A i mewn i siop i ofyn am rhywbeth, a dw i’n embarassed yn wneud o.

Mae pobol yn meddwl bo fi’n ffroenuchel, ond swil ydw i.