Portread o Hattie Guy

Ar ôl treulio sawl blwyddyn yn teithio o gwmpas y byd, mae Hattie Guy bellach wedi dychwelyd i Sir y Fflint lle mae’n hynod weithgar yn ei chymuned.

Yn ogystal â thrin cleifion covid mewn ysbytai a chartrefi gofal, mae’r nyrs 27 oed yn arwain clybiau ac yn trefnu gweithgareddau ym mhentref Trelawnyd ger Prestatyn.

Ac ers dechrau’r argyfwng mae wedi bod yn cynorthwyo’r rheiny sydd yn unig ac yn ynysig.