Mae diffyg dylanwad y Cymro Gareth Bale yng nghrys tîm pêl-droed Spurs yn ddealladwy, yn ôl Graham Potter, cyn-reolwr Abertawe.

Roedd cryn ddathlu yng ngogledd Llundain pan ymunodd yr ymosodwr ar fenthyg o Real Madrid ym mis Medi, ac fe sgoriodd ei gôl gyntaf chwe wythnos yn ddiweddarach yn erbyn Brighton, y tîm mae Potter bellach yn ei reoli.

Ond ar y cyrion mae Bale o hyd, wrth i’r ddau dîm fynd ben-ben eto yfory (dydd Sul, Ionawr 31).

Sgoriodd e 55 o goliau yn ei 203 o gemau yn ei gyfnod cyntaf gyda Spurs rhwng 2007 a 2013, ond dim ond 170 o funudau mae e wedi treulio ar y cae ers dychwelyd, a’i gôl yn erbyn Brighton yw’r unig un mae e wedi’i sgorio hyd yn hyn.

Ond fe allai gael ei gyfle yn absenoldeb Harry Kane, sydd wedi anafu ei ffêr, i danio unwaith eto er nad yw’r rheolwr Jose Mourinho yn gweld y ddau chwaraewr yn debyg i’w gilydd.

Diffyg amser ar y cae

Yn ôl Graham Potter, mae ei ddiffyg amser ar y cae ar ddiwedd ei gyfnod yn Sbaen wedi cyfrannu’n helaeth at ei berfformiadau’n ôl yn Spurs.

“Dw i’n gwybod nad yw hi’n hawdd os nad ydych chi wedi bod yn chwarae pêl-droed ers sbel i fwrw iddi yn yr Uwch Gynghrair,” meddai.

“Dydy hi ddim mor syml â hynny, waeth bynnag pwy ydych chi.

“Mae angen peth amser arnoch chi, mae angen i chi ddarganfod y rhythm hwnnw, addasu i’r gynghrair, er ei fod e’n dod i mewn ar ôl bod yma yn y gorffennol.

“Os nad ydych chi wedi bod yn chwarae’n gyson, mae’r gofynion a’r dwyster yn eitha’ cryf a [hyd yn oed] wedyn, mae e’n mynd i glwb sydd yn amlwg â chystadleuaeth a chwaraewyr da.

“Dw i heb feddwl ryw lawer am y peth ond mae a wnelo fe dipyn â heriau’r Uwch Gynghrair.”