Fe fydd y cysylltiad rhwng pêl-droed a dementia dan y chwyddwydr eto yng Nghymru dros y misoedd nesaf ar drothwy cwest i farwolaeth Keith Pontin, cyn-chwaraewr Caerdydd a Chymru.

Bu farw’r cyn-amddiffynnwr canol rhyngwladol o Bontyclun yn 64 oed fis Awst y llynedd, bum mlynedd ar ôl cael diagnosis o ddementia.

Ac mae gwrandawiad wedi clywed am y cysylltiad posib rhwng ei yrfa fel pêl-droediwr a’i farwolaeth.

Chwaraeodd e i Gaerdydd rhwng 1976 a 1983, gan ennill dau gap dros Gymru.

Ond cafodd e’r diagnosis yn 2015 yn dilyn pryderon am ddirywiad yn ei iechyd ac mae ei deulu’n credu bod y salwch yn deillio o flynyddoedd ar y cae yn penio’r bêl a chael sawl cyfergyd.

Agor a gohirio’r cwest

Mae’r crwner wedi agor a gohirio’r cwest i’w farwolaeth yn dilyn archwiliad post-mortem a thystiolaeth.

Mae’n dweud bod rheswm ganddo i gredu bod ei farwolaeth yn un “annaturiol” yn sgil ei waith yn bêl-droediwr.

Mae’n dweud bod cyswllt rhwng ei waith a’i farwolaeth, ond dydy hi ddim yn glir a oedd y naill wedi arwain yn “uniongyrchol” at y llall.

Bydd cwest llawn yn dechrau ar Fai 3, 2022 yn dilyn oedi “sylweddol” yn sgil y coronafeirws, ond dywed y crwner y gallai ddechrau cyn hynny pe bai cyfle i’w gynnal.

Penio’n ‘gwneud drwg i’r ymennydd’ – awgrym astudiaeth Gymreig

Ymchwil ar chwech o gyn-chwaraewyr pêl-droed proffesiynol yn creu galw am waith ymchwil pellach