Mae Clwb Pêl-droed Y Barri wedi cyhoeddi ymadawiad y cefnwr Paul Morgan ar ôl degawd gyda’r clwb.

Ymunodd e â’r clwb o Academi Casnewydd fis Awst 2012 ac fe ddaeth yn un o hoelion wyth y clwb yn ystod y blynyddoedd wedyn.

Chwaraeodd e 184 o weithiau i’r clwb, gan sgorio pum gôl.

Roedd e’n aelod o’r garfan a gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru yn 2013 cyn i’r Barri golli eu lle yn y gynghrair wythnosau’n ddiweddarach.

Enillodd e bob adran yng Nghynghrair Cymru gyda’r clwb wrth iddyn nhw godi drwy’r adrannau mewn tymhorau olynol.

Cafodd ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yn 2013-14 ac eto yn 2015-16.

Chwaraeodd e yn ail gymal y gêm yng Nghynghrair Europa yn erbyn Cliftonville fis Gorffennaf 2019.

Teyrnged a diolch

Mae’r clwb wedi diolch iddo am ei wasanaeth, gan deulu teyrnged iddo.

“Fe wnaethon ni chwarae gêm Cwpan Cymru oddi cartref yng Nghasnewydd nifer o flynyddoedd yn ôl ac roedd Paul yn chwarae iddyn nhw fel cefnwr chwith troed dde,” meddai.

“Ro’n i’n gwybod mai boi o’r Barri yw e felly pan gafodd ei ryddhau gan Gasnewydd, fe ddaeth e’n syth yma.

“Fe wnaeth e ymarfer gyda’r tîm cyntaf ond gan chwarae i’r tîm datblygu am flwyddyn ac ers hynny, mae e wedi bod yn rhagorol.

“Mae Paul yn foi anghredadwy ac fe all fod yn falch iawn o bopeth mae e wedi’i gyflawni gyda’r clwb pêl-droed. Sawl tlws, uchafbwyntiau niferus ac mae e wedi mynd yr holl ffordd drwy’r adrannau gyda ni.

“Mae’n destun siom ei weld e’n symud yn ei flaen, ond mae e’n haeddu chwarae pêl-droed ac mae ganddo fe gyfle da i wneud hynny felly dw i ond yn dymuno’r gorau iddo fe.

“Dw i’n meddwl y byd ohono fe a dw i’n gwybod gymaint mae e’n caru’r clwb hwn.

“Bydd y bois yn gweld ei eisiau fe oherwydd mae e’n rhan fawr o’n hystafell newid, ond dw i’n gwybod na fydd e’n ddieithr i ni.”