Cafodd clybiau pêl-droed Cymru yng nghynghreiriau Lloegr ganlyniadau cymysg heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 30).

Roedd Abertawe’n fuddugol o 3-1 yn Rotherham ac enillodd Wrecsam o 2-0 yn King’s Lynn, tra bod Caerdydd a Millwall yn gyfartal 1-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a Chasnewydd wedi colli o 2-1 yn Harrogate.

Caerdydd

Rhwydodd Kieffer Moore i sicrhau pwynt i Gaerdydd, oedd wedi gorfod brwydro’n ôl i orffen yn gyfartal gyda Millwall yng ngêm gartref gyntaf Mick McCarthy wrth y llyw yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Dyma’r seithfed gêm gyfartal yn olynol rhwng y ddau dîm, ac fe ddaeth ar ôl i Aden Flint, dewis dadleuol yn nhîm Caerdydd ganol yr wythnos, roi’r bêl yn ei rwyd ei hun yn yr hanner cyntaf.

Cafodd Kenneth Zohore, cyn-ymosodwr yr Adar Gleision, gyfle i gipio’r triphwynt i’r ymwelwyr ond mae’r canlyniad yn gadael tîm McCarthy yn bymthegfe yn y Bencampwriaeth, un safle uwchlaw’r gwrthwynebwyr.

Abertawe

Mae ymgyrch Abertawe ben arall y tabl yn mynd o nerth i nerth, ar ôl iddyn nhw ennill yn gyfforddus o 3-1 yn Rotherham.

Aethon nhw ar y blaen drwy gôl gelfydd Conor Hourihane cyn i’r capten Matt Grimes daro chwip o ergyd o ymyl y cwrt cosbi i ddyblu mantais ei dîm.

Tarodd y tîm cartref yn ôl yn gynnar yn yr ail hanner gyda gôl i’r eilydd Freddie Ladapo oddi ar dafliad hir.

Ond eilydd arall, Jay Fulton, sicrhaodd y canlyniad i’r Elyrch eiliadau ar ôl dod i’r cae, ac mae ei dîm yn ddi-guro mewn saith gêm yn yr ail safle erbyn hyn, ddau bwynt uwchlaw Brentford sy’n drydydd.

Casnewydd

Roedd siom i ddeg dyn Casnewydd, wrth i Harrogate gadw eu gobeithion o aros yn y gynghrair a’r Ail Adran yn fyw gyda buddugoliaeth o 2-1.

Aeth yr Alltudion ar y blaen drwy gôl Luke Gamblin oddi ar gic gornel cyn i Josh March unioni’r sgôr oddi ar beniad Aaron Martin.

Daeth gôl i Martin yntau oddi ar gic gornel George Thomson, cyn i Liam Shepard gael cerdyn coch am dacl flêr.

Wrecsam

Roedd Wrecsam yn gwbl gyfforddus oddi cartref yn erbyn King’s Lynn i gadw eu gobeithion o ennill dyrchafiad o’r Gynghrair Genedlaethol yn fyw.

Rhwydodd Jamie Reckord o’r cwrt cosbi a tharodd Adi Yussuf ergyd cyn yr egwyl i ddyblu eu mantais.

Cadwodd y golwr Christian Dibble ei dîm yn yr ornest gyda sawl arbediad campus, ac maen nhw bellach yn nawfed yn y tabl, un pwynt islaw safleoedd y gemau ail gyfle.

Mae King’s Lynn driphwynt uwchlaw safleoedd y gwymp.