Mae Glenn Delaney, prif hyfforddwr rhanbarth rygbi’r Scarlets yn dweud bod y grasfa o 52-25 gan Leinster ym Mharc y Scarlets neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 30) yn “ddychrynllyd”.
Cipiodd y Gwyddelod bwynt bonws cyn yr egwyl wrth i’r prop Tadhg Furlong chwarae’r hanner cyntaf – ei hanner cyntaf o rygbi ers y Chwe Gwlad fis Chwefror diwethaf – i roi hwb i Iwerddon ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a’r gêm yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd yn agor y gystadleuaeth ddydd Sul nesaf (Chwefror 7).
Aeth y Scarlets ar y blaen drwy gic gosb Sam Costelow yn gynnar yn y gêm ond roedd eu diffyg disgyblaeth yn amlwg o’r dechrau, wrth iddyn nhw ildio cic rydd o’r ail sgrym.
Roedd 17 o chwaraewyr rhyngwladol ar goll o dîm Leinster a 12 o dîm y Scarlets ond y Gwyddelod wnaeth ymdopi â hynny o bell ffordd, gan godi eto i frig Cynghrair A y PRO14.
Roedd cicio’r Scarlets yn wael, fe wnaethon nhw ildio gormod o giciau cosb ac roedd pac y Gwyddelod yn rhy gryf iddyn nhw.
Daeth dau o’r pedwar cais cyntaf wrth i’r Gwyddelod hyrddio o’r lein o bellter, yr ail ohonyn nhw’n gais cosb a daeth un arall o sgrym bum metr.
Daeth y cais gipiodd y pwynt bonws i’r ymwelwyr o lein agos.
Roedd ambell agwedd gadarnhaol i’r Scarlets wrth i Dan Leavy groesi o sgrym agos, ac fe wnaeth Costelow greu cais i’r mewnwr Dane Blacker, oedd wedi cael cefnogaeth yr wythwr Uzair Cassiem gyda rhediad cryf o’r llinell hanner i mewn i ddwy ar hugain y Gwyddelod cyn lledu’r bêl.
Gyda’r trosiad, roedd y Scarlets ar y blaen o 10-7 ond ail gic gosb oedd eu hunig bwyntiau eraill cyn yr egwyl.
Sgoriodd James Tracy a Ronan Kelleher geisiau i Leinster, ac fe gawson nhw gais cosb wrth i Harry Byrne ychwanegu dau drosiad a chic gosb.
Sgoriodd Luke McGrath, y cefnwr Max O’Reilly a’r eilydd o ganolwr David Hawkshaw gais yr un wedi’r egwyl, gyda’r trosiadau oddi ar droed Bryne yn mynd â nhw y tu hwnt i’r hanner cant.
Ymateb
“Mae’n ddychrynllyd,” meddai’r prif hyfforddwr Glenn Delaney wrth ymateb i’r golled.
“Dydyn ni ddim wedi ildio cynifer o bwyntiau y tymor hwn.
“Fe ddaethon ni i mewn iddi â record amddiffynnol eitha’ da ac fe gafodd honno ei chwalu.
“17-13 oedd y sgôr ar un adeg ac roedd hi’n edrych fel pe bai hi’n mynd i agor i fyny rywfaint i ni ond fe wnaethon ni ildio ciciau cosb, cicio’r bêl allan ar ei phen a’u gwahodd nhw i’n tiriogaeth ni ac fe wnaeth hynny roi’r cyfle iddyn nhw sgorio.
“Maen nhw’n dîm o safon wrth fynd yn agos at y llinell gais.
“Sut gawson nhw’r cyfleoedd hynny sy’n rhaid i ni edrych arno.
“Fe wnaethon ni roi tipyn o bwysau arnon ni’n hunain, yn sicr, yn ystod yr hanner cyntaf hwnnw.
“Fe wnaethon ni gywiro hynny yn yr ail hanner, ond roedd y niwed wedi’i wneud.
“Y gwir amdani yw nad yw ildio 50 o bwyntiau gartref yn ddigon da.”