Roedd hi’n noson i’w chofio i Gerwyn Price ond yn enwedig i Jonny Clayton yn y Meistri Dartiau neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 31).

Mae Price, oedd yn chwarae am y tro cyntaf ers dod yn bencampwr byd, drwodd i’r wyth olaf ar ôl curo Joe Cullen o 10-3, ond canlyniad gorau’r noson oedd buddugoliaeth ei gyd-Gymro Clayton o 10-9 dros yr Iseldiwr Michael van Gerwen – y dyn sydd wedi’i ddisodli ar frig y rhestr ddetholion ar ôl saith mlynedd gan Price.

Fe wnaeth Clayton ddod â rhediad yr Iseldirwr o 20 buddugoliaeth o’r bron i ben yn y gystadleuaeth hon y llynedd, ac fe gipiodd ei ail fuddugoliaeth o’r bron drosto wrth ennill o 10-9.

Roedd Michael van Gerwen ar ei hôl hi o 4-1 o fewn dim o dro cyn sgorio 158, 150 a 148 i ennill gemau a brwydro’n galed i fynd â’r ornest i’r gêm olaf.

Ond sgoriodd Clayton ddau 180 yn olynol wrth ennill y gêm olaf â 14 o ddartiau.

“Fe wnes i ddechrau’n gyflym a dw i’n credu bod hynny wedi helpu,” meddai Jonny Clayton.

“Ro’n i’n gallu gweld Michael yn siglo’i ben yn gynnar.

“Mae hi bob amser yn anodd mewn gêm olaf dyngedfennol yn erbyn un o’r chwaraewyr gorau sydd wedi chwarae’r gêm, a fyddai’r ddau 180 yna ddim wedi gallu dod ar adeg well.

“Ro’n i hyd yn oed yn meddwl am [ddiweddglo] naw dart!

“Gobeithio y galla i fynd yr holl ffordd, dyna dw i am drio’i wneud.

“Gadewch i ni weld beth sy’n digwydd.”

Bydd e’n herio’r Sais James Wade yn yr wyth olaf heddiw (dydd Sul, Ionawr 31) ar ôl i hwnnw guro Chris Dobey o 10-4.

Gerwyn Price

Fe wnaeth Gerwyn Price guro Joe Cullen o 10-3 wrth i’r Cymro o Went fwynhau ei gêm gyntaf ers cael ei goroni’n bencampwr a rhif un y byd dartiau.

Dechreuodd e’n gryf gyda diweddglo o 132 i fynd ar y blaen o 2-1 ac roedd e ar y blaen o 3-2 erbyn yr egwyl gyda chyfartaledd tri dart o 101.2 gan sgorio 92 i orffen y gêm gyntaf wedi’r egwyl.

Enillodd e’r tair gêm nesaf ag 11 dart i fynd ar y blaen o 7-2, er i Cullen daro’n ôl ag 85 i’w gwneud hi’n 7-3.

Aeth Price ar y blaen o 9-3 gyda sgôr o 60, ac erbyn hynny ei gyfartaledd tri dart oedd 106.6 ac roedd e wedi sgorio pum 180 erbyn hynny.

Fe wnaeth e orffen yr ornest gyda chyfartaledd tri dart o 104.3 a phum sgôr o 180 ar ôl sgorio dwbwl deg.

Bydd e’n herio Adrian Lewis yn yr wyth olaf.