Mae awdurdodau rygbi Awstralia wedi cynnig cynnal taith y Llewod yn erbyn De Affrica yn yr haf.

Fe ddaw yn dilyn pryderon ynghylch pa mor ddiogel fyddai’r daith i Dde Affrica yn sgil yr amrywiolyn coronafeirws yn y wlad.

Mae disgwyl i’r Llewod herio De Affrica, pencampwyr y byd, mewn tair gêm brawf ym mis Gorffennaf ac Awst ond fe fu cryn drafod ynghylch cynnal y gemau heb dorfeydd, symud y daith i wledydd Prydain neu ei gohirio’n gyfangwbl.

Ond mae Hamish McLennan, cadeirydd Rygbi Awstralia, wedi cadarnhau’r cynnig i gynnal y gyfres.

Fe ddywedodd wrth y Sydney Morning Herald fod modd i’r wlad gynnal digwyddiadau’n ddiogel unwaith eto ac y bydd yr elw o’r daith yn cael ei rhannu rhwng y Llewod a De Affrica, tra byddai Rygbi Awstralia’n derbyn arian i dalu costau cynnal y daith yn unig.

Bydd modd i hyd at 30,000 o bobol ymgynnull i wylio Pencampwriaeth Tenis Agored Awstralia ym Melbourne fis nesaf, a’r gobaith yw y bydd torf yn cael bod yng ngemau’r Llewod pe bai’r daith yn cael ei chynnal yn Awstralia.

Ymateb capten Cymru

Yn ôl Alun Wyn Jones, capten tîm rygbi Cymru, dylai’r daith fynd yn ei blaen “os oes modd”.

Mae’n dweud y byddai’n “drychineb” pe na bai cefnogwyr y Llewod yn cael mynd i wylio’r gemau.