Gallai dau Gymro herio’i gilydd yn rownd derfynol Meistri’r Dartiau ym Milton Keynes heno (nos Sul, Ionawr 31).

Bydd Gerwyn Price o sir Caerffili yn herio Mervyn King ar ôl curo Adrian Lewis o 10-6, tra bydd Jonny Clayton o Bontyberem yn Sir Gaerfyrddin yn wynebu Peter Wright, pencampwr y llynedd, ar ôl ennill o 10-9 yn erbyn James Wade.

Pe bai Gerwyn Price yn llwyddo i ennill, fe fyddai’n efelychu camp Wright y llynedd, pan enillodd yr Albanwr Bencampwriaeth y Byd a’r Meistri yn yr un flwyddyn.

Dyma’r tro cyntaf i Price gyrraedd y pedwar olaf, a hynny ar ôl gorffen gyda chyfartaledd tri dart o 105.6 yn erbyn Lewis, ac wyth sgôr o 180.

Gerwyn Price 10-6 Adrian Lewis

Enillodd y Cymro y gêm gyntaf gydag 80 yn erbyn y tafliad ac roedd y Sais Lewis ar ei hôl hi o 3-0 cyn taflu 90 i’w gwneud hi’n 3-1.

Taflodd Price 71 i ennill ei bumed gêm erbyn yr egwyl, ac fe enillodd e’r chweched gyda deg dart.

Erbyn yr ail egwyl, roedd gan Price fantais o 7-3 ar ôl i Lewis daflu 114 wrth frwydro’n ddewr i geisio achub yr ornest.

Methodd Price â chwe dwbl cyn i Lewis dorri’r tafliad i’w gwneud hi’n 8-5 ac yna’n 8-6.

Ond taflodd y Cymro 180 am y seithfed tro, a dwbl 20, wrth orffen gydag 11 dart i’w gwneud hi’n 9-6.

Roedd angen dwbl 20 ar Price yn y gêm olaf ar ôl taflu 180, ac fe sicrhaodd ei le ymhlith y pedwar olaf.

Jonny Clayton 10-9 James Wade

Jonny Clayton oedd y chwaraewr olaf i sicrhau ei le yn y rownd gyn-derfynol, ac fe fu’n rhaid iddo frwydro’n galed ar ôl bod ar ei hôl hi o 9-6.

Ond fe enillodd e bedair gêm yn olynol i ennill o 10-9 i sicrhau gornest yn erbyn Peter Wright.

Roedd e hefyd wedi bod ar ei hôl hi o 7-3 yn gynharach yn y gêm, ac fe gaeodd e ben y mwdwl ar yr ornest gyda thafliad tri dart o 126, gan lwyddo gyda deg allan o 11 tafliad dwbl.

Enillodd Wade y gêm gyntaf gyda thafliad tri dart o 99 ond fe wnaeth y Cymro unioni’r sgôr gyda 160.

Sgoriodd Wade 121 i’w gwneud hi’n 2-1 ac fe aeth yn ei flaen i ennill y ddwy gêm nesaf gyda 126 arall.

Ond roedd bwlch o ddwy gêm rhyngddyn nhw eto wrth i’r Sais fynd ar y blaen o 5-3 gan lwyddo gyda phump allan o saith tafliad dwbl a chyfartaledd o 105.7 gyda thri dart.

Enillodd e ddwy gêm arall, ei drydedd yn olynol, cyn i Clayton daflu 100 gyda dau ddwbwl 20 i roi’r momentwm iddo yng ngweddill yr ornest.

Enillodd e gyda thafliad o 68 i’w gwneud hi’n 7-5 ac fe enillodd e’r gêm nesaf i ddod o fewn un gêm i’w wrthwynebydd.

Ond tarodd y Sais yn ôl unwaith eto gan ennill y ddwy gêm nesaf i ddod o fewn un gêm i’r rownd gyn-derfynol.

Serch hynny, taflodd Clayton 121 a 62 yn y ddwy gêm nesaf i ddod o fewn un gêm i Wade (9-8).

Enillodd y Cymro y gêm a’r ornest gydag 11 dart a sgôr olaf o 126, a’r cyfan allai Wade ei wneud gyda 121 yn weddill ar y bwrdd oedd gwylio’i wrthwynebydd yn sicrhau’r fuddugoliaeth.