Wrth iddi ymddangos yn gynyddol annhebygol y bydd unrhyw gefnogwyr yn cael teithio i’r Ewros yn yr haf, mae’r chwaraewyr yn brwydro am eu lle ar yr awyren o hyd.

Pwy a atgyfnerthodd ei achos y penwythnos hwn tybed?

Uwchgynghrair Lloegr

Roedd hi’n benwythnos distaw arall i’r Cymry yn Uwchgynghrair Lloegr. Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Neil Taylor i Aston Villa, Hal Robson-Kanu i West Brom a Dan James i Man U ddydd Sadwrn. Felly hefyd Danny Ward a Tyler Roberts wrth i Gaerlŷr a Leeds wynebu’i gilydd ddydd Sul, a gwylio o’r fainc a wnaeth Neco Williams yn ogystal wrth i Lerpwl herio West Ham.

Un Cymro sydd yn chwarae’n rheolaidd yw Ethan Ampadu. Yn dilyn dechrau gwael i’r tymor, mae pethau wedi gwella i’w dîm, Sheffield United, dros yr wythnosau diwethaf ac mae Ampadu wedi cyfrannu at hynny, yn chwarae fel un o dri yn y cefn. Cafodd ei dîm fuddugoliaeth dda yn erbyn Man U ganol wythnos ac roeddynt yn anffodus i beidio â chael dim yn erbyn Man City ddydd Sadwrn, yn colli o gôl i ddim.

Roedd newyddion gwell i gefnogwyr Cymru yn y gêm hwyr nos Sul wrth i Joe Rodon, Ben Davies a Gareth Bale i gyd ddechrau i Tottenham oddi cartref yn erbyn Brighton. Roedd Rodon a Davies yn dechrau gyda’i gilydd am y drydedd gêm gynghrair yn olynol a Bale yn dod i mewn i’r tîm oherwydd anaf i Harry Kane.

Nid oedd hi’n noson i’w chofio i’r tri serch hynny wrth iddynt golli o gôl i ddim, yn enwedig felly Bale a gafodd ei eilyddio wedi awr ar ôl methu a chreu llawer o argraff yn ymosodol.

*

Y Bencampwriaeth

Arhosodd Abertawe yn ail yn y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth yn Rotherham ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Ben Cabango a Connor Roberts wrth i’r Elyrch ennill o dair gôl i un. Ymddangososs y cyn Alarch, Shaun MacDonald, i’r gwrthwynebwyr.

Ar y fainc yr oedd Liam Cooper ar gyfer y gêm hon ond roedd hi’n wythnos dda i’r blaenwr ifanc wrth iddo arwyddodd cytundeb newydd gyda’r clwb. Bydd yn rhaid i dîm Steve Cooper fod ar eu gorau eto nos Wener wrth i’r tîm ar y brig, Norwich, ymweld â’r Liberty.

Gêm gyfartal a gafodd Caerdydd yng ngêm gartref gyntaf y rheolwr newydd, Mick McCarthy, wrth y llyw. Dechreuodd Will Vaulks a Kieffer Moore yn erbyn Millwall a chafodd Harry Wilson hanner awr oddi ar y fainc. Ac ar ôl i Moore sgorio i achub pwynt i’w reolwr newydd yn Barnsley ganol wythnos, fe ail adroddodd blaenwr Cymru’r gamp yn erbyn Millwall ddydd Sadwrn yn dilyn gwaith creu graenus Wilson. Ar y fainc yr oedd Mark Harris i’r Adar Gleision ac felly hefyd Tom Bradshaw i’r ymwelwyr.

Roedd hi’n brynhawn i’w anghofio i Rhys Norrington-Davies wrth i Stoke deithio i Huddersfield ddydd Sadwrn. Derbyniodd cefnwr chwith Cymru gerdyn coch ar ddiwedd yr hanner cyntaf yn dilyn tacl flêr ar Juninho Bacuna. Gorffen yn gyfartal, un gôl yr un, a wnaeth y gêm gyda James Chester a Joe Allen yn chwarae 90 munud i’r Potters.

Colli a fu hanes pob Cymro arall yn y Bencampwriaeth y penwythnos hwn. Dechreuodd Chris Mepham a daeth David Brooks oddi ar y fainc wrth i Bournemouth golli yn Reading nos Wener ac roedd Tom Lockyer yn nhîm Luton a gollodd yn Blackburn y diwrnod canlynol.

Collodd Wycombe o saith gôl i ddwy yn Brentford! Methodd Joe Jacobson y gêm ar ôl dioddef anaf yn y gêm gwpan yn erbyn Spurs nos Lun diwethaf ond daeth Alex Samuel i’r cae fel eilydd hwyr gyda’i dîm eisoes bum gôl i ddwy ar ei hôl hi.

Colli o gôl i ddim a oedd hanes Preston yn erbyn Sheffield Wednesday. Dechreuodd Andrew Hughes y gêm ond y newyddion gorau i gefnogwyr Cymru a oedd gweld Billy Bodin yn dychwelyd i’r tîm yn dilyn cyfnod hir allan gydag anaf, yn chwarae deuddeg munud oddi ar y fainc.

*

Cynghreiriau is

Doncaster a aeth â hi yn y frwydr rhyngddynt a Lincoln tua brig yr Adran Gyntaf ddydd Sadwrn. Matthew Smith yn cael y gorau o Brennan Johnson felly wrth i’r ddau Gymro chwarae’r gêm gyfan.

Sgoriodd Luke Jephcott ei unfed gôl ar bymtheg o’r tymor wrth i Plymouth gael gêm gyfartal yn erbyn Accrington.

Cyfartal, gôl yr un, a oedd hi rhwng Crewe ac Ipswich ar Gresty Road. Roedd ymddangosiad prin i Dave Richards rhwng y pyst i’r tîm cartref ac fe ddechreuodd Gwion Edwards y gêm i’r ymwelwyr.

Chwaraeodd Kieron Freeman i Swindon wrth iddynt golli yn Hull a chafodd Cian Harries 90 munud i Bristol Rovers mewn colled gartref yn erbyn Rochdale.

Mae rhediad gwael diweddar Casnewydd yn parhau yn yr Ail Adran. Colli oddi cartref yn Harrogate a wnaethant y penwythnos hwn ac mae diffyg disgyblaeth yn parhau i fod yn broblem i dîm Mike Flynn, gyda Liam Shephard y diweddaraf i dderbyn cerdyn coch yn y gêm hon.

*

Yr Alban a thu hwnt

Roedd Ash Taylor a Ryan Hedges yn nhîm Aberdeen wrth iddynt gael gêm gyfartal ddi sgôr yn Livingston yn Uwchgynghrair yr Alban ddydd Sadwrn. Cafodd Christian Doidge a’i dîm, Hibs, well hwyl arni yn erbyn Dundee Utd, yn ennill o ddwy gôl i ddim i gau’r bwlch ar Aberdeen yn y trydydd safle i un pwynt yn unig.

Ym Mhencampwriaeth yr Alban, ildiodd Owain Fôn Jones gôl hwyr wrth i Dunfermline golli oddi cartref yn erbyn Hearts.

Er mai dim ond deg munud o gêm Juventus yn erbyn Sampdoria a chwaraeodd Aaron Ramsey nos Sadwrn, fe greodd gryn argraff, yn sgorio’r ail gôl wrth i’w dîm ennill o ddwy i ddim.

Ar y fainc yr oedd Robbie Burton wrth i Dinamo Zagreb golli yn erbyn Sibenik yng Nghroatia ac felly hefyd Andy King wrth i Leuven golli yn erbyn Beerschot yng Ngwlad Belg.

Roedd canlyniad da i St. Pauli wrth i James Lawrence ddychwelyd i’r tîm ar ôl cyfnod allan gydag anaf. Enillodd y Môr Ladron o bedair gôl i dair yn Heidenheim i godi’n glir o safleoedd disgyn y 2. Bundesliga.

 

Gwilym Dwyfor